Other Voices Cardigan 2023

Event date
October 26, 2023
-
October 28, 2023
Location
Cardigan, West Wales

Event Details

*Scroll for Welsh*

Other Voices returns to Cardigan this October - full programme now revealed!

We’re counting down the days until we return to West Wales this October for another incredible weekend of songs & stories ⛪

Now in its fourth year, this year's edition of Other Voices Cardigan will feature a weekend of world-class performances from St Mary's Church, live sets across The Music Trail from the very best emerging acts on the scene plus a series of mind-opening conversations & ideas at the Clebran Sessions - there is something for everyone at this year's festival. Keep scrolling for the low down at this year's festival and join us for three days and nights of incredible live music and more for just £35.

St Mary's Church - Livestreamed performances 27 & 28 October

This year's Church lineup will showcase the very best talent from the worlds of alt-pop, post-punk, folk, indie, and more on 26 & 27 October 2023. All performances will be presented by Huw Stephens and livestreamed via the OV YouTube at on the big screen Mwldan in the heart of Cardigan. The best way to nab a golden ticket to attend the recording of the livestreams is to grab your weekend wristband for the festival, which will give you unlimited access to both the Music Trail and the Clebran Sessions.

Friday 27 October

Coming to you live from St Mary's Church on Friday, 27 October, will be one of Wales' most exciting exports, The Joy Formidable, who make their Other Voices debut at the festival. They join alt-pop superstar Sans Soucis, extraordinary triple harpist Cerys Hafana, and the double Welsh Music Prize-winning rockers Adwaith on the Friday bill.

Saturday 28 October

OV favourite King Creosote returns to the Other Voices stage for a Church set on Saturday, 28 October, alongside Mercury Music Prize nominees Yard Act, gifted singer-songwriter Susan O'Neill, and Irish musical royalty Colm Mac Con Iomaire.

THE MUSIC TRAIL  26 - 28 October (Multiple venues)

Beyond the livestreamed performances the Music Trail will showcase over 30 live sets across the weekend from some Ireland and Wales' brightest new talents!

Over three days and nights our incredible line up will take over some of Cardigan's most beloved venues as part of this year's OV Cardigan.

From the pop perfection of Fia Moon to the lyrical prowess of grime's Mace The Great via the wall of sound that is Chalk, there is something for everyone on this year's Music Trail! A weekend wristband will give you access to ever show on the Music Trail all weekend long, on a first come, first served basis!

CLEBRAN

Cleban is the festival's ideas strand - a place where brilliant minds can gather to share stories, ideas and songs which celebrate the culture ties that bond us together.

Taking place at Mwldan in the heart of Cardigan, this year’s programme Clebran - Flowing Tides will consider the unprecedented challenges of our time, but also the possibilities, opportunities and solutions. These discussions will look at the local and the global, the periphery and the centre, community and wider society, and how small movements can bring about significant change.

This year’s Clebran features a collection of incredible speakers, including Author and broadcaster Jon Gower, harpist Cerys Hafana, Associate Professor of Early Modern History John Gallagher; writer, composer and performer Daf James; writer-director Tracy Spottiswoode; writer, podcaster and journalist Damian Kerlin; journalist and author Richard Fisher, Senior Lecturer in Applied Psychology Dr Sharon Lambert and historian, writer and reviewer Christopher Kissane, along with CN Smith, Deirdre de Bhailís, General Manager of Dingle Hub; Hanan Issa - National Poet of Wales; Rt Hon Mark Drakeford MS, First Minister of Wales; Sophie Mackintosh; and Wayne Howard. More speakers will be announced in the coming weeks. Clebran will take place in the afternoons/evenings of Thursday, Friday, and Saturday across the weekend.

A Music Trail wristband gives unlimited access to the Clebran discussions. BOOK NOW

Clebran is co-curated by Ireland's Edge.

WRISTBANDS

Wristbands on at just £35 are on sale now.

What you get with a wristband:

  • Unlimited Access to over 80 live sets along the Music Trail
  • Unlimited access to all Clebran sessions
  • Entry into a draw for golden tickets to The Church
  • Entry into the draw to win a number of extraordinary prizes from local businesses

PRIZES

When you buy an Other Voices wristband, you get automatically entered into a draw for prizes donated by some of our wonderful local businesses.

We have a range of local experiences including meals out, boat trips, cookery classes, art workshops and adventure days, we have hampers brimming with local produce and products including some beautifully crafted ceramic tableware.

Check out the prizes on offer here

HOW TO GET TO CARDIGAN

If you’d like to join us on our Welsh adventure this October, we’ve put together a handy travel guide to help you get there!

From Ireland

Ireland Drive via Holyhead:

  • Drive from Dublin to Dublin Port
  • Take a ferry from Dublin Port to Holyhead (Ferry tickets)
  • Drive from Holyhead to Cardigan (52.085838789596714, -4.6605764903234785)

Ireland to Wales Ferry Route via Rosslare and Fishguard:

  • Drive from Dublin to Rosslare Harbour
  • Catch a ferry from Rosslare Harbour to Fishguard (Ferry tickets)
  • Proceed from Fishguard to Cardigan (52.085838789596714, -4.6605764903234785)

Fly and Train/Taxi Route via Dublin and Cardiff.

  • Fly from Dublin Airport to Cardiff (Find a flight)
  • Take a train from Rhoose Barry to Bridgend and Carmarthen (Find a train)
  • Reach Cardigan from Carmarthen via taxi

Belfast Voyage via Air, Train, or Drive:

  • Fly from Belfast City Airport to Cardiff (CWL) (Find a flight)
  • Journey from Rhoose Barry to Bridgend and Carmarthen by train (Find a train)
  • Alternatively, drive from Carmarthen to Cardigan

Other Voices Cardigan 2023 is made possible with the support of Welsh Government and The Department of Tourism, Culture, Arts, Gaeltacht, Sport and Media and is produced by South Wind Blows in partnership with Mwldan and Triongl. The event will be filmed by Triongl for later broadcast on S4C and RTÉ.

___________________________

Mae Lleisiau Eraill yn dychwelyd i Aberteifi fis Hydref eleni – mae’r rhaglen lawn bellach wedi'i datgelu!

Rydyn ni'n cyfri'r dyddiau nes i ni ddychwelyd i Orllewin Cymru ym mis Hydref am benwythnos anhygoel arall o ganeuon a straeon ⛪

Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, bydd o gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi eleni yn cynnwys penwythnos o berfformiadau o’r radd flaenaf yn Eglwys y Santes Fair, setiau byw ar hyd y Llwybr Cerdd gan y perfformwyr newydd gorau un ar y sîn yn ogystal â chyfres o sgyrsiau a syniadau sy’n ehangu’r meddwl yn y Sesiynau Clebran - mae rhywbeth at ddant pawb yn yr ŵyl eleni. Daliwch ati i sgrolio ar gyfer manylion yr ŵyl eleni ac ymunwch â ni am dri diwrnod a thair noson o gerddoriaeth fyw anhygoel a mwy am £35 yn unig.

Eglwys y Santes Fair - Perfformiadau wedi'u ffrydio'n fyw 27 a 28 Hydref

Ar 26 a 27 Hydref 2023, bydd rhaglen yr Eglwys eleni yn arddangos y dalent orau o feysydd pop-amgen, ôl-pync, gwerin, indi a mwy. Bydd pob perfformiad yn cael ei gyflwyno gan Huw Stephens a'i ffrydio'n fyw trwy YouTube OV ac ar y sgrin fawr yn y Mwldan yng nghanol Aberteifi. Y ffordd orau o ennill tocyn aur i fynychu recordio’r ffrydiau byw yw bachu band arddwrn penwythnos ar gyfer yr ŵyl, a fydd yn rhoi mynediad anghyfyngedig i chi i'r Llwybr Cerdd a'r Sesiynau Clebran.

Dydd Gwener 27 Hydref

Yn fyw o Eglwys y Santes Fair ddydd Gwener, 27 Hydref, fe gyflwynir i chi un o’r talentau mwyaf cyffrous i ddod o Gymru, The Joy Formidable, sy’n perfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Lleisiau Eraill. Byddan nhw’n ymuno â’r seren pop-amgen Sans Soucis, y delynores deires ryfeddol Cerys Hafana, a’r rocwyr o Gymru Adwaith sydd wedi ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ddwywaith.

‍Dydd Sadwrn 28 Hydref

Bydd ffefryn Lleisiau Eraill King Creosote yn dychwelyd i lwyfan Lleisiau Eraill ar gyfer set Eglwys ddydd Sadwrn, 28 Hydref, ochr yn ochr ag enwebeion y Wobr Gerdd Mercury, Yard Act, y gantores-gyfansoddwraig ddawnus Susan O'Neill, ac un o fawrion Cerddoriaeth Iwerddon, Colm Mac Con Iomaire.Yn ychwanegol at berfformiadau’r Eglwys, byddwn yn cyflwyno dros 30 o setiau byw ar hyd y penwythnos gan rai o dalentau newydd mwyaf disglair Cymru ac Iwerddon! 

Dros dri diwrnod a thair noson bydd ein lein-yp rhyfeddol yn perfformio yn rhai o leoliadau mwyaf hoffus Aberteifi fel rhan o Leisiau Eraill Aberteifi. O berffeithrwydd pop Fia Moon i allu geiriol grime Mace the Great drwy wal sain Chalk, mae rhywbeth at ddant pawb ar hyd y Llwybr Cerdd eleni.Bydd band arddwrn penwythnos yn rhoi mynediad i chi i bob sioe ar y Llwybr Cerdd drwy’r penwythnos, ar sail y cyntaf i’r felin!

CLEBRAN

Clebran yw llinyn syniadau’r ŵyl - man lle gall meddyliau disglair ddod at ei gilydd i rannu straeon, syniadau a chaneuon sy’n dathlu’r clymau diwylliannol sy’n ein rhwymo ynghyd.

Bydd rhaglen Clebran eleni, Llanw a Thrai, a gynhelir yn y Mwldan yng nghanol Aberteifi, yn archwilio heriau heb eu tebyg ein hoes, ond hefyd y posibiliadau, y cyfleoedd a'r atebion. Bydd y trafodaethau hyn yn ystyried y lleol a’r byd-eang, y cyrion a’r canol, y gymuned a’r gymdeithas ehangach, a sut y gall mudiadau bach greu newid mawr. 

Mae Clebran eleni yn cynnwys casgliad o siaradwyr anhygoel, gan gynnwys yr Awdur a’r darlledwr Jon Gower, y delynores Cerys Hafana, yr Athro Cysylltiol mewn Hanes Modern Cynnar John Gallagher; yr awdur, y cyfansoddwr a’r perfformiwr Daf James; yr awdur-gyfarwyddwr Tracy Spottiswoode; yr awdur, y podlediwr a’r newyddiadurwr Damian Kerlin; y newyddiadurwr a’r awdur Richard Fisher, yr Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Gymhwysol Dr Sharon Lambert a'r hanesydd, yr awdur a’r adolygydd Christopher Kissane, ynghyd â CN Smith, Deirdre de Bhailís, Rheolwr Cyffredinol y Dingle Hub; Hanan Issa - Bardd Cenedlaethol Cymru; Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru; Sophie Mackintosh; a Wayne Howard. Cyhoeddir mwy o siaradwyr yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd Clebran yn digwydd yn y prynhawn/nos ddydd Iau, dydd Gwener, a dydd Sadwrn ar hyd y penwythnos.

Mae band arddwrn Llwybr Cerdd yn rhoi mynediad anghyfyngedig i drafodaethau Clebran. 

Caiff Clebran ei guradu ar y cyd gan Ireland's Edge.

BANDIAU ARDDWRN

Mae Bandiau Arddwrn am £35 yn unig ar werth nawr.
Yr hyn a gewch gyda band arddwrn:

  • Mynediad anghyfyngedig i dros 80 o setiau byw ar hyd y Llwybr Cerdd
  • Mynediad anghyfyngedig i holl sesiynau Clebran
  • Eich cynnwys mewn raffl am docynnau aur i’r Eglwys 
  • Eich cynnwys mewn raffl i ennill nifer o wobrau gwych gan fusnesau lleol 

GWOBRAU

Pan fyddwch chi'n prynu band arddwrn Lleisiau Eraill, cewch eich cynnwys yn awtomatig mewn raffl am wobrau a roddwyd gan rai o'n busnesau lleol gwych. Mae gennym ystod o brofiadau lleol gan gynnwys prydau o fwyd, teithiau mewn cwch, dosbarthiadau coginio, gweithdai celf a diwrnodau antur, mae gennym hamperi yn llawn cynnyrch a chynhyrchion lleol gan gynnwys llestri bwrdd ceramig wedi'u crefftio'n gelfydd.

Edrychwch ar y gwobrau sydd ar gael yma

SUT I GYRRAEDD ABERTEIFI

Os hoffech chi ymuno â ni ar ein hantur i Gymru ym mis Hydref eleni, rydyn ni wedi llunio canllaw teithio defnyddiol i’ch helpu chi i gyrraedd yno!

O Iwerddon

Gyrru – gan adael o Gaergybi:

  • Gyrru o Ddulyn i Borthladd Dulyn
  • Teithio ar y fferi o Borthladd Dulyn i Gaergybi (tocynnau fferi)
  • Gyrru o Gaergybi i Aberteifi
    (52.085838789596714, -4.6605764903234785)

Fferi - Iwerddon i Gymru gan deithio rhwng Rosslare ac Abergwaun:

  • Gyrru o Ddulyn i Borthladd Rosslare
  • Teithio o Abergwaun i Aberteifi
    (52.085838789596714, -4.6605764903234785)

Hedfan a Thrên/Tacsi  - rhwng Dulyn a Chaerdydd.

  • Hedfan o Faes Awyr Dulyn i Gaerdydd (Dod o hyd i daith awyr)
  • Cymryd trên o’r Rhws, y Barri i Ben-y-bont ar Ogwr a Chaerfyrddin
    (Dod o hyd i drên)
  • Cyrraedd Aberteifi o Gaerfyrddin mewn tacsi

Teithio o Felfast - Hedfan, Trên, neu Yrru:

  • Hedfan o Faes Awyr Dinas Belfast i Gaerdydd (CWL) (Dod o hyd i daith awyr)
  • Teithio o’r Rhws, y Barri i Ben-y-bont ar Ogwr a Chaerfyrddin ar y trên (Dod o hyd i drên)
  • Neu, gyrru o Gaerfyrddin i Aberteifi

GWOBRAU

Siop Y Pentre, Cilgerran siopypentre.co.uk

Adventure Beyond adventurebeyond.co.uk

Bay Coffee Roasters baycoffeeroasters.com

Boys And Girls boysandgirlsrestaurant.co.uk

Cardigan Bay Properties cardiganbayproperties.co.uk

Clynfyw Care Farm clynfyw.co.uk/ccbs/invest.php

In The Welsh Wind inthewelshwind.co.uk

Mantle Brewery mantlebrewery.com

Mundos mundos.co.uk

St. Dogmaels Pottery peterbodenham.co.uk

Walden Arts waldenarts.co.uk

Welsh Homestead Smokery welshsmokery.co.uk

Dai Crabs daicrabsboat.com/captain

Anne Cakebread and Claire Wigley canfas.co.uk

Cardigan Castle / Castell Aberteifi cardigancastle.com

Theatr Mwldan Film Society / Cymdeithas Ffilm Theatr Mwldan mwldan.co.uk/about/theatr-mwldan-film-society

Mwldan mwldan.co.uk

Strands

No items found.