Clebran speaker line up announced for Other Voices Cardigan

Clebran speaker line up announced for Other Voices Cardigan

September 5, 2023

Welsh First Minister Mark Drakeford, Hanan Issa - National Poet of Wales, playwright CN Smith and more added to the line-up for Clebran - Flowing Tides

· 26 - 28  October 2023

· Three days of intimate and invigorating discussions and performances at Other Voices Cardigan festival

· Mwldan, Cardigan, West Wales as part of Other Voices Cardigan

· Wristbands just £25 for three days of music, discussion and ideas

· Wristband purchase includes automatic entry into the prize draw for Church tickets

BOOK NOW

Scroll for Welsh

We are delighted to share some of the incredible new voices who will be joining us for Clebran - Flowing Tides as part of Other Voices Cardigan this October.

These distinguished voices include the acclaimed young playwright CN Smith; Deirdre de Bhailís,  social enterprise and community leader and General Manager of Dingle Hub; National Poet of Wales, Hanan Issa; Welsh language champion Wayne Howard; author Sophie Mackintosh, and special guest Rt Hon Mark Drakeford MS, First Minister of Wales who returns to Cardigan to open this year's Other Voices Cardigan. 


They join the previously announced author and broadcaster Jon Gower; harpist Cerys Hafana; language historian, Dr John Gallagher;  screenwriter and performer Daf James; writer-director Tracy Spottiswoode; journalist and broadcaster Damian Kerlin, journalist and author Richard Fisher, Senior Lecturer in Applied Psychology Dr Sharon Lambert and historian, writer and reviewer Christopher Kissane, with more to announce in the coming weeks. This compelling and timely group of voices will discuss culture, power, representation, the future and much more, all the while capturing our imaginations.

Clebran - Flowing Tides

This year's programme will consider the flowing tides of past, present, and future to ask how our communities can address unprecedented challenges, from the local to the global.

Taking place at Mwldan in the heart of Cardigan, this year’s Clebran programme will consider the unprecedented challenges of our time, but also the possibilities, opportunities and solutions. These discussions will look at the local and the global, the periphery and the centre, community and wider society, and how small movements can bring about significant change.

Curated in partnership with the multidisciplinary ideas series Ireland’s Edge, Clebran grows from the friendship between the two small coastal towns of Dingle - the hometown of Other Voices - and Cardigan, places that share a deep appreciation for culture and community, and show how things look different from the edge.

The Programme

On Thursday 26 October, special guest, First Minister of Wales Mark Drakeford, returns to Clebran to open the festival at 4pm, followed by music from triple harpist Cerys Hafana.

Writer and broadcaster Jon Gower will begin the programme with words on the relationship between Ireland and Wales, echoing his latest book The Turning Tide, which offered a ‘biography of the Irish Sea’. Cerys Hafana, language historian Dr John Gallagher, and former Welsh teacher Wayne Howard, who recently featured in the S4C docu-series, Teulu, Dad a Fi (Family, Dad and Me), will then join Jon to discuss their ‘Language Journeys’, sharing stories of learning and speaking Irish and Welsh, and how languages have enriched their lives.

First Minister Mark Drakeford and Deirdre de Bhailís, an expert in sustainable rural development and Manager of the Dingle Hub in Other Voices’ hometown Dingle, located on the southwest coast of Ireland, will join Christopher Kissane for ‘Small Places, Big Ideas’, exploring how seemingly remote places can become powerful examples of progressive change.

On Friday 27 October, podcaster and writer Damian Kerlin hosts ‘Creating Space: Queer Voices in the Creative Sector’, speaking with writer-director Tracy Spottiswode and award-winning playwright and screenwriter Daf James, whose drama ‘Lost Boys and Fairies’ is coming soon to BBC1, about telling compelling queer stories, the far-ranging impact and influence of the LGBTQIA+ community on the creative industries, and the importance and value of the arts and arts spaces in society.

On Saturday 28 October ‘Don't Stop (Thinking About Tomorrow)’ will explore the perils of short-term thinking, and ask what can be done to protect the interests of future generations. Christopher Kissane will be joined by BBC Future’s Richard Fisher – author of The Long View: Why We Need to Transform How the World Sees Times – and psychologist Dr Sharon Lambert from University College Cork, a participant in Ireland’s Citizens’ Assembly on Drug Use. Clebran will be hosted by Christopher Kissane of Ireland’s Edge and Ireland’s Edge - The Podcast.

The full Clebran schedule as well as more exciting speakers will be announced in the coming weeks.  

Clebran Tickets

An Other Voices Cardigan weekend wristband includes unlimited access to all Clebran - Flowing Tides discussions and performances. Earlybird wristbands are on sale now at £25, changing to £35 on 1st October. BOOK NOW

____

Other Voices Cardigan 2023 is made possible with the support of Welsh Government and The Department of Tourism, Culture, Arts, Gaeltacht, Sport and Media and is produced by South Wind Blows in partnership with Mwldan and Triongl. The event will be filmed by Triongl for later broadcast on S4C and RTÉ.

____

Rydym yn falch iawn o rannu rhai o’r lleisiau newydd anhygoel a fydd yn ymuno â ni ar gyfer Clebran - Llanw a Thrai fel rhan o Leisiau Eraill Aberteifi fis Hydref eleni.

Ymhlith y lleisiau o fri hyn yw’r dramodydd ifanc clodwiw CN Smith; Deirdre de Bhailís, arweinydd menter gymdeithasol a chymunedol a Rheolwr Cyffredinol y Dingle Hub; Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa; pencampwr y Gymraeg Wayne Howard; yr awdur Sophie Mackintosh, a’r gwestai arbennig y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru sy'n dychwelyd i Aberteifi i agor Lleisiau Eraill Aberteifi eleni.

Maen nhw’n ymuno â'r awdur a'r darlledwr a gyhoeddwyd yn flaenorol, Jon Gower; y delynores Cerys Hafana; yr hanesydd iaith, Dr John Gallagher; y sgriptiwr a’r perfformiwr Daf James; yr awdur-gyfarwyddwr Tracy Spottiswoode; y newyddiadurwr a’r darlledwr Damian Kerlin, y newyddiadurwr a’r awdur Richard Fisher, yr Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Gymhwysol Dr Sharon Lambert a'r hanesydd, yr awdur a’r adolygydd Christopher Kissane, gyda mwy i'w cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf. Bydd y grŵp o leisiau nodedig ac amserol hwn yn trafod diwylliant, pŵer, cynrychiolaeth, y dyfodol a llawer mwy, gan gipio ein dychymyg ar yr un pryd.

Clebran – Llanw a Thrai

Bydd rhaglen eleni yn ystyried llanw a thrai y gorffennol, y presennol a’r dyfodol er mwyn gofyn sut y gall ein cymunedau fynd i’r afael â heriau heb eu tebyg, o’r lleol i’r byd-eang.

Eleni, bydd rhaglen Clebran, a gynhelir yn y Mwldan yng nghanol Aberteifi, yn ystyried heriau heb eu tebyg ein hoes, ond hefyd y posibiliadau, yr atebion a'r cyfleoedd. Bydd y trafodaethau hyn yn ystyried y lleol a’r byd-eang, y cyrion a’r canol, y gymuned a’r gymdeithas ehangach, a sut y gall mudiadau bach greu newid mawr.

Wedi'i guradu mewn partneriaeth â'r digwyddiad a’r podlediad Gwyddelig Ireland's Edge, mae Clebran yn tyfu o'r cyfeillgarwch rhwng dwy dref arfordirol fechan, Dingle - tref enedigol Other Voices - ac Aberteifi, lleoedd sy'n rhannu gwerthfawrogiad dwfn o ddiwylliant a chymuned, ac yn dangos sut mae pethau'n edrych yn wahanol o'r ymyl.

Ddydd Iau 26 Hydref, bydd y gwestai arbennig, Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford, yn dychwelyd i Aberteifi i agor yr ŵyl am 4pm, gyda cherddoriaeth gan y delynores deires Cerys Hafana i ddilyn.

Bydd yr awdur a’r darlledwr Jon Gower yn dechrau’r digwyddiad drwy sôn am y berthynas rhwng Iwerddon a Chymru, gan adleisio ei lyfr diweddaraf The Turning Tide, a oedd yn cynnig ‘bywgraffiad o Fôr Iwerddon’. Yna bydd Cerys Hafana y delynores deires glodwiw, yr hanesydd iaith Dr John Gallagher, a’r cyn-athro Cymraeg Wayne Howard yn ymuno â Jon i drafod eu ‘Teithiau Iaith’, gan rannu straeon am ddysgu a siarad Gwyddeleg a Chymraeg, a sut mae’r ieithoedd hyn wedi cyfoethogi eu bywydau.

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford a Deirdre de Bhailís, arbenigwraig mewn datblygu gwledig cynaliadwy a Rheolwr Cyffredinol y Dingle Hub, yng Ngorllewin Kerry, Iwerddon yn ymuno â Christopher Kissane ar gyfer ‘Lleoedd Bach, Syniadau Mawr’, gan archwilio sut y gall lleoedd sy’n ymddangos yn anghysbell ddod yn enghreifftiau pwerus o newid blaengar.

Ddydd Gwener 27 Hydref, y podlediwr a’r awdur Damian Kerlin sy’n arwain ‘Creu Gofod: Lleisiau Cwiar yn y Sector Creadigol’, gan siarad â’r awdur-gyfarwyddwr Tracy Spottiswode a’r dramodydd a’r sgriptiwr gwobrwyedig Daf James, y mae ei ddrama ‘Lost Boys and Fairies’ yn dod i BBC1 cyn hir, am adrodd straeon cwiar gafaelgar, effaith a dylanwad pellgyrhaeddol y gymuned LGBTQIA+ ar y diwydiannau creadigol, a phwysigrwydd cynyddol y celfyddydau a mannau celfyddydol mewn cymdeithas.

Ddydd Sadwrn 28 Hydref bydd ‘Don’t Stop (Thinking About Tomorrow)’ yn archwilio peryglon meddwl tymor byr, a’r hyn a ellir ei wneud i ddiogelu buddiannau cenedlaethau’r dyfodol. Yn ymuno â Christopher Kissane fydd Richard Fisher o BBC Future - awdur The Long View: Why We Need to Transform How The World Sees Time – a’r seicolegydd Dr Sharon Lambert, o Goleg Prifysgol Cork, a gymerodd ran yng Nghynulliad y Dinasyddion ar Ddefnyddio Cyffuriau’ Iwerddon. Arweinir Clebran gan Christopher Kissane o Ireland’s Edge ac Ireland’s Edge - The Podcast.

Caiff amserlen lawn Clebran yn ogystal â mwy o siaradwyr gwych eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.

Tocynnau Clebran

Bydd band arddwrn Lleisiau Eraill Aberteifi yn rhoi mynediad anghyfyngedig i chi i holl drafodaethau a pherfformiadau Clebran – Llanw a Thrai. Mae bandiau arddwrn Pris Cynnar ar werth nawr am £25, gan godi i £35 ar 1af Hydref. ARCHEBWCH NAWR.

Cynhyrchir Lleisiau Eraill Aberteifi gan South Wind Blows mewn partneriaeth â’r Mwldan a Triongl ac mae’n bosib o ganlyniad i gefnogaeth a buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ac Adran Treftadaeth, Diwylliant, Celfyddydau, y Gaeltacht, Chwaraeon a Chyfryngau.

Share!