Other Voices Cardigan 2024

Event date
October 31, 2024
-
November 2, 2024
Location
Cardigan, West Wales

Event Details

Live & Online | Tickets on sale now

We're delighted to announce that we’ll be back in lovely West Wales this Autumn for the fifth edition of Other Voices Cardigan!

Other Voices Cardigan returns for its fifth year, with a jam-packed weekend of world-class performances in St Mary's Church, sets from the brightest emerging artists on the Music Trail, and thought-provoking discussions at the Clebran Sessions. Last year’s Church lineup saw Mercury Prize nominees Yard Act, Scottish folk hero King Creosote, Double Welsh Music Prize winners Adwaith and more perform intimate shows for some lucky ticket winners. This year we're back with another incredible curated line-up of breaking music drawn from across the genres, featuring everything from hip-hop, grime and electronica to post-punk, traditional and folk and everything in between at this year’s OV Cardigan. Keep scrolling for the full scéal on this year's OV Cardigan!

💒 St Mary's Church Line Up | With more TBA

Lighting up St Mary’s Church this year will be an amazing line-up of intimate headline acts, spanning a vast array of genres and sounds. 

Lighting up the sacred St Mary’s Church this November will be Welsh Music Prize winner Georgia Ruth, beloved songwriter and producer Bill Ryder-Jones, and with a debut album tipped by the Guardian as one of 2024’s best, Fabiana Palladino also joins us for a huge Other Voices debut, with lots more Church acts to be revealed soon!

Welsh legend Huw Stephens will be bringing you all their performances live and online from the heart of Cardigan via the OV YouTube on 1 & 2 November. 

As with all Other Voices events, Church tickets cannot be bought but buying a Music Trail wristband will automatically enter you into the draw to win golden tickets to be in the room for these intimate and inspiring live sets. 

🪩 Music Trail Line Up | With more TBA

Across the town of Cardigan the Music Trail will showcase over 80 live sets across the weekend from some Ireland and Wales' brightest new talents!

Over 80 lives sets will take place over the weekend, featuring everything from the relatable electro-pop of Morgana to the fresh drill sounds of Sage Todz the genre-bending baritone of Skunkadelic, you'll be sure to find your favourite new act at #OVC24.

A weekend wristband will give you access to every show on the Music Trail all weekend long, on a first come, first served basis!

BOOK HERE

💡 Clebran | First speakers announced

Other Voices Cardigan & Ireland's Edge are thrilled to announce this year’s Clebran programme.

Taking place from 31 October to 2 November, the Clebran sessions provide a space where ideas and stories meet discussion and performance at the Other Voices Cardigan Festival. 

The theme of this year’s event, At the Crossroads, Where Spirits Gather, brings together a scintillating lineup of speakers, thinkers, doers and artists to consider an array of timely subjects and issues through the prism of community, collectivism, traditions, and ritual.

Kicking things off with a druidic ceremony marking Nos Calan Gaef/Samhain, the programme will also see discussions on the activism of football beyond the pitch, the rekindling of bonds across the Irish Sea post-Brexit, the significance of staying rooted in an ever-changing world, and explorations of farming history and the visibility of black music promotion in Wales and Ireland. 

// LINEUP //

The Dingle Druid, Julí Ní Mhaoileóin / Carys Eleri, Artist & Druid / Dr. Billy Mag Fhloinn, Folklorist, Archaeologist, Lecturer / Noel Mooney, CEO, Football Association of Wales / Laura McAllister, UEFA Vice President, Exco member & Professor at Cardiff University Darren Chetty, Writer & Presenter / Delyth Jewell MS / Professor Diarmait Mac Giolla Chriost,  School of Welsh, Cardiff University / Marianne Kennedy, Theatre Academic / Dr. Christopher Kissane, Historian & Writer / Dr. Lowri Cunnington Wynn, Lecturer, Aberystwyth University   // James Dovey, Creative Director at Blueprint /  Edwina Guckian, Dancer, Farmer and Community Activist / Hannah Quinn-Mulligan, Journalist & Organic Farmer / Carwyn Graves, Author & Gardener /  Tumi Williams, Multidisciplinary Creative and  Max Zanga, Musician & Multidisciplinary Artist

And brand new for Other Voices Cardigan 2024 will be ‘Clebran on The Trail’ - a series of inspiring conversations with musicians across the town, exploring the things that fuel their creative fire and the passions they hold dear.

A Music Trail wristband gives unlimited access to the Clebran discussions.

Clebran is co-curated by Ireland's Edge.

🎫 Earlybird wristbands on sale now

Weekend wristbands on sale now for £50

What you get with a wristband:

  • Unlimited Access to over 80 live sets along the Music Trail
  • Unlimited access to all Clebran and Clebran on the Trail sessions
  • Entry into a draw for golden tickets to The Church

____

Other Voices Cardigan is staged with the support and investment of Welsh Government and The Department of Tourism, Culture, Arts, Gaeltacht, Sport and Media, The Department of Foreign Affairs’ Reconciliation Fund and is produced by South Wind Blows in partnership with Mwldan and Triongl. This project is part-funded by the UK Government through the UK Shared Prosperity Fund, Levelling Up supported by Ceredigion County Council.

Strands

OV Cardigan 2024 (Welsh)

Gallwn nawr ddatgelu rhaglen lawn Lleisiau Eraill Aberteifi!

Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Orllewin Cymru am benwythnos anhygoel arall o ganeuon a straeon ⛪

Mae Lleisiau Eraill Aberteifi yn dychwelyd am ei phumed flwyddyn, gyda phenwythnos llawn dop o berfformiadau o safon fyd-eang yn Eglwys y Santes Fair, setiau gan yr artistiaid mwyaf disglair sy’n dod i’r amlwg ar y Llwybr Cerdd, a thrafodaethau i brocio’r meddwl yn y Sesiynau Clebran.

Sgroliwch i lawr i ddarganfod mwy am y digwyddiad eleni, gyda thridiau o gerddoriaeth, hud a mwy am £50 yn unig.

Eglwys y Santes Fair – Perfformiadau wedi’u ffrydio’n fyw 1 a 2 Tachwedd

Yn goleuo Eglwys y Santes Fair eleni bydd lein-yp anhygoel o brif actau agos atoch, yn rhychwantu amrywiaeth eang o genres a seiniau. Gyda Huw Stephens yn cyflwyno, caiff y perfformiadau arbennig hyn eu ffrydio’n fyw ar draws y byd drwy sianel YouTube OV a’u dangos ar y sgrin fawr yn y Mwldan, yng nghanol Aberteifi.

Mae prynu band arddwrn yn rhoi mynediad anghyfyngedig i chi i'r Llwybr Cerdd a'r Sesiynau Clebran, yn ogystal â chyfle mewn raffl i ennill tocynnau mynediad y mae galw mawr amdanynt i berfformiadau yn yr Eglwys.

Dydd Gwener 1af Tachwedd

***

Dydd Sadwrn 2ail Tachwedd

***

Y LLWYBR CERDD 1 a 2 Tachwedd (Lleoliadau lluosog)

Y tu hwnt i'r perfformiadau sy'n cael eu ffrydio'n fyw bydd y Llwybr Cerdd yn arddangos dros 30 o setiau byw dros y penwythnos gan rai o dalentau newydd mwyaf disglair Iwerddon a Chymru!

Cynhelir dros 90 o setiau byw ar draws y dref, lle byddwn yn dod â rhai o’r actau newydd gorau a mwyaf disglair o Gymru, Iwerddon a thu hwnt i rai o leoliadau mwyaf cartrefol Aberteifi. Cynhelir yr ŵyl eleni mewn 11 o leoliadau ar draws y dref gan gynnwys lleoliad gig newydd sbon ar gyfer 2024; Capel Bethania hanesyddol Aberteifi yn Stryd Wiliam.


Gyda thalent arloesol yn ymestyn o bop-electro Morgana i gerddoriaeth ôl-bync cyntefig M(h)ol a’r bariton sy’n gwyro genres, Skunkadelic, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i’ch hoff act newydd yn #OVC2024.

Bydd band arddwrn penwythnos yn rhoi mynediad i chi i bob sioe ar y Llwybr Cerdd drwy'r penwythnos, ar sail y cyntaf i'r felin!

CLEBRAN

Mae’n bleser mawr gan Lleisiau Eraill Aberteifi ac Ireland’s Edge i gyhoeddi rhaglen Clebran eleni.

Mae’r sesiynau Clebran, a gynhelir rhwng 31 Hydref a 2 Tachwedd, yn darparu gofod lle bydd syniadau a straeon yn cwrdd â thrafodaeth a pherfformiad yng Ngŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi.

Mae thema eleni, ‘Ar y Groesffordd, Lle Mae Ysbrydion yn Cwrdd,’ yn dwyn ynghyd ystod hynod ddiddirol o siaradwyr, meddylwyr, artistiaid a’r rheiny sy’n gwneud er mwyn ystyried amrywiaeth o bynciau a materion amserol trwy lensys cymuned, cyd-dynnu, traddodiadau, a defodau

//LEIN-YP//

Derwydd Dingle, Julí Ní Mhaoileóin · Carys Eleri, Actores, Artist a Derwydd· Dr. Billy Mag Fhloinn, Llên-gwerinwr · Laura McAllister, Is-lywydd UEFA a chyn chwaraewr pêl-droed (Cymru) · Noel Mooney, Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas Bêl-droed Cymru · Darren Chetty, Ysgrifennwr a Chyflwynydd · Delyth Jewell AS · Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd · Marianne Kennedy, Academydd Theatr· Dr. Christopher Kissane, Hanesydd ac Ysgrifennwr · Dr. Lowri Cunnington Wynn, Aberystwyth University · James Dovey, Cyfarwyddwr Creadigol Blueprint· Edwina Guckian, Dawnsiwr a Ffermwr · Hannah Quinn -Mulligan, Newyddiadurwr a Ffermwr Organig · Carwyn Graves, Awdur a Garddwr · Tumi Williams, Skunkadelic/Afrocluster/ Starving Artists · Max Zanga o Filmore a Tebi Rex.

Ac yn newydd sbon i Lleisiau Eraill Aberteifi 2024 fydd ‘Clebran ar hyd y Llwybr’ – cyfres o sgyrsiau ysbrydoledig â cherddorion ar draws y dref, yn archwilio’r pethau sy’n ysgogi eu tân creadigol a’r meysydd diddordeb sy’n annwyl iddynt.

Mae band arddwrn #OVC24 yn rhoi mynediad anghyfyngedig i chi i drafodaethau Clebran.

Caiff Clebran ei gyd-guradu gan Ireland's Edge.

BANDIAU ARDDWRN

Mae bandiau arddwrn ar werth nawr am £50 yn unig.

Yr hyn a gewch chi gyda band arddwrn:

Mynediad i dros 90 o setiau byw gan rai o actau mwyaf cyffrous Cymru, Iwerddon a thu hwnt

  • Mynediad anghyfyngedig i dros 90 o setiau byw ar hyd y Llwybr Cerdd.
  • Mynediad anghyfyngedig i holl sesiynau Clebran a Clebran ar Hyd y Llwybr.
  • Cyfle i ennill tocynnau aur i'r Eglwys mewn raffl  
  • Cyfle i ennill nifer o wobrau anhygoel gan fusnesau lleol mewn raffl.

Llwyfannir Lleisiau Eraill Aberteifi gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a’r Adran Twristiaeth, Diwylliant, Celfyddydau, Gaeltacht, Chwaraeon a Chyfryngau, Cronfa Gymodi'r Adran Materion Tramor a chaiff ei chynhyrchu gan South Wind Blows mewn partneriaeth â’r Mwldan a Triongl. Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Ffyniant Bro a gefnogir gan Gyngor Sir Ceredigion.

OV Cardigan 2024 | Music Trail Artists

Across the town of Cardigan the Music Trail will showcase over 80 live sets across the weekend from some Ireland and Wales' brightest new talents!

Over 80 lives sets will take place over the weekend, featuring everything from the relatable electro-pop of Morgana to the fresh drill sounds of Sage Todz the genre-bending baritone of Skunkadelic, you'll be sure to find your favourite new act at #OVC2024.

A weekend wristband will give you access to every show on the Music Trail all weekend long, on a first come, first served basis!

BOOK HERE

Adjua

Adjua, a welsh/ Ghanaian songwriter, instrumentalist and producer. She brings a unique and stylish Indie/grunge R&B sound to the Cardiff scene and beyond. She uses her distinct songwriting skills to create beautiful yet haunting Melodie’s and harmony. With a particular lyrical focus on self-awareness, her music will leave you feeling reflective, emotional and wanting more.

/

Cantores-gyfansoddwraig a chynhyrchydd R&B-amgen, Lladin a ffync wedi’i geni a’i magu yn Sblot, Caerdydd yw ADUJA. Mae hi’n manteisio ar ddylanwad ei threftadaeth Gymreig-Ghanaidd gan arddangos ei sgiliau recordio lleisiol a’i sgiliau ysgrifennu caneuon unigryw ac yn eu paru â geiriau gwleidyddol a theimladwy. Mae ei EP début soffistigedig, Self (2023), yn angerddol dros hunanddatblygiad, hunangariad a charedigrwydd, ac yn fregus ac yn ysbrydol ar yr un pryd. “Rich, smooth and enthralling.”- Clash.

Big Sleep

2023 saw the release of their EP ‘Isn’t That Sweet’, the latest infectious indie guitar bops from Dublin’s Big Sleep. Including singles ‘Easy’, ‘Maccy D’s’, ‘All Of The Pretty Things’ and ‘Shivering’, all of which picked up great radio support. They’ve played all the key Irish festivals, including Electric Picnic, All Together Now and Indiependance as well as a packed Ireland Music Week showcase, it’s fair to say Big Sleep are having a very busy time of it.

/

Mae’r sêr pop-indi o Iwerddon Big Sleep newydd ennill yr anrhydedd o fod yn un o Artistiaid Addawol RTÉ yn 2024, ac ynghyd â hyn bydd eu cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar orsaf radio pop fasnachol fwyaf Iwerddon 2FM am weddill y flwyddyn. Mae Hot Press yn dweud eu bod yn ‘destined for greatness’ ac mae’n hawdd gweld pam...mae’r pop indi-amgen a soul heintus a arweinir gan gitarau'r band Gwyddelig-Eidalaidd hwn o Ddulyn yn denu ffans ar draws Iwerddon ac Ewrop lle maen nhw’n teithio’n helaeth.

Chubby Cat 

Hailed as “a new Irish electro-pop artist to watch” (Nialler9), Cork-born Chubby Cat is one of Ireland’s most exciting new artists, creating waves with an individuality and high style of her own and turning heads for the past year with her insane vocal range and penchant for experimenting with sounds under the pop umbrella. A slew of singles, including Big Dog Barking, have led to airplay across Ireland, BBC 6 Music, Radio 1 plus an influential ‘Now Hear This’ playlist by The Independent (UK).

/

A hithau’n cael ei hystyried fel “a new Irish electro-pop artist to watch” (Nialler9), mae Chubby Cat a anwyd yn Swydd Cork yn un o artistiaid newydd mwyaf cyffrous Iwerddon, yn syfrdanu gyda natur unigryw ac arddull ei hun ac yn denu sylw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda’i hystod leisiol anhygoel a’i hoffter o arbrofi gyda seiniau o faes pop. Mae toreth o recordiau sengl, gan gynnwys Big Dog Barking, wedi arwain at chwarae ei cherddoriaeth ar y radio ar draws Iwerddon, BBC6 Music, Radio 1 ynghyd â’i chynnwys ar restr chwarae ddylanwadol ‘Now Hear This’ gan The Independent (DU).

Cynefin

Syniad Owen Shiers, un o frodorion Dyffryn Clettwr yw prosiect Cynefin. Wedi'i gyfareddu gan gerddoriaeth a hanes, mae'n gais i roi llais i dreftadaeth gyfoethog Ceredigion. Wrth deithio'r trwy'r tirlun lleol mae Owen wedi dadorchuddio hen straeon, cerddi a chaneuon, ac wedi rhoi bywyd newydd iddynt yn y presennol.

/

The brain-child of West Wales native Owen Shiers, Cynefin is a musical mapping project which traces a line from the past to the present – starting in the Clettwr Valley where he was raised. The resulting recordings and performance uncover lost voices, melodies and stories and give a modern voice to Ceredigion’s rich yet fragile cultural heritage – presenting forgotten and neglected material in a fresh new light. The debut Cynefin album Dilyn Afon was widely acclaimed. A stunning new talent” – The Guardian.

David Kitt

A unique and sincere songwriter with an expert ability to meld inspirations, eras and sounds, platinum selling artist David Kitt’s music glimmers with a sense of timelessness well-earned after over twenty years immersed in music.

/

Ac yntau’n gyfansoddwr caneuon unigryw a didwyll gyda gallu arbenigol i asio ysbrydoliaeth, cyfnodau a seiniau, mae cerddoriaeth yr artist David Kitt, sydd wedi gwerthu dros filiwn o recordiau, yn disgleirio gydag ymdeimlad o fytholrwydd haeddiannol ar ôl ugain mlynedd a mwy wedi ymdrwytho mewn cerddoriaeth.

Don Leisure

Don Leisure is a beat maker, record collector, producer and DJ residing in Cardiff. Born in Aberdare he has worked with a myriad of artists and record labels and has performed at Glastonbury Festival, Dimensions Festival, We Out Here Festival, Fabric, Boiler Room and Low End Theory (LA) as well as many more locations. He has released 5 LPs mostly on the First Word label.

/

Gwneuthurwr bîts, casglwr recordiau, cynhyrchydd a DJ yw Don Leisure sy'n byw yng Nghaerdydd. Yn enedigol o Aberdâr, mae wedi gweithio gyda nifer fawr o artistiaid a labeli recordiau ac wedi perfformio yng Ngŵyl Glastonbury, Gŵyl Dimensions, Gŵyl We Out Here, Fabric, Boiler Room a Low End Theory (LA) yn ogystal â llawer mwy o leoliadau. Mae wedi rhyddhau 5 LP, yn bennaf ar label First Word.

DUG

DUG is the new musical venture of songwriter Lorkin O’Reilly and California native Jonny Pickett. Having spent the past decade in Upstate NY releasing albums and touring extensively, Conor (Lorkin O’Reilly) moved to Dublin last year to start a new musical chapter. Drawing inspiration from both Irish and American traditional music, DUG aims to create a transatlantic blend that reflects the musical heritages of both its members.

/

Dug yw’r prosiect cerddoriaeth newydd a ffurfiwyd gan y cyfansoddwr caneuon Lorkin O'Reilly a Jonny Pickett, brodor o Galiffornia, ym mis Hydref 2023 yn Nulyn. Ar ôl treulio'r degawd blaenorol yng ngogledd Efrog Newydd, symudodd O'Reilly yn ôl at ei deulu yn Nulyn a chwrdd â Pickett. Caiff y ddau ohonynt eu symbylu gan gariad at hen gerddoriaeth America a cherddoriaeth werin Iwerddon, mae Dug bellach yn bodoli rhywle rhwng y ddau fyd hynny. Gyda dwy record sengl wedi’u rhyddhau ac albwm début ar y ffordd, mae yna gyffro go iawn ynghylch Dug yn Nulyn ar hyn o bryd.

Eoghan Ó Ceannabháin

Eoghan Ó Ceannabháin is a singer, songwriter and multi-instrumentalist from Dublin. His musical roots are in sean-nós singing, the style of his father. His songs – written in both English and Irish – build on his sean-nós singing foundations, combining hard-hitting lyrics with other musical influences to create a rich, contemporary sound.

/

Canwr, cyfansoddwr caneuon ac aml-offerynnwr o Ddulyn yw Eoghan Ó Ceannabháin. Mae ei wreiddiau cerddorol yn y canu sean-nós, arddull ei dad. Mae ei ganeuon – wedi’u hysgrifennu yn Saesneg ac yn Wyddeleg – yn adeiladu ar ei seiliau canu sean-nós, gan gyfuno geiriau trawiadol â dylanwadau cerddorol eraill i greu sain gyfoethog, gyfoes.

Filmore!

Filmore! is the moniker of Irish singer, songwriter, rapper and visual artist Max Zanga, who leans into the absurdity of the world today with a strong focus on power and violence using immersive storytelling throughout his music. Max was commissioned by Dublin Fringe Festival to create an award-winning installation of experimental art combining striking visuals and imagery while exploring the complexities of youth and nostalgia using his character Filmore! Live, Filmore! delivers a thrilling set of electro, punk, drum ‘n’ bass and hip-hop that’s earned him the title ‘Gen Z Tyler, The Creator’.

/

Filmore! yw llysenw y canwr, ysgrifennwr caneuon, rapiwr a’r artist gweledol Max Zanga, sy’n mynd i’r afael â hurtrwydd y byd sydd ohoni gyda ffocws cryf ar bŵer a thrais gan ddefnyddio chwedleua ymdrochol trwy gydol ei gerddoriaeth. Cafodd Max ei gomisiynu gan Ŵyl Ffrinj Dulyn i greu gwaith gosod gwobrwyedig o gelf arbrofol, yn cyfuno darnau gweledol a delweddaeth drawiadol tra’n archwilio cymhlethdodau ieuenctid a nostalgia gan ddefnyddio ei gymeriad Filmore! Live. Mae Filmore! yn cyflwyno set wefreiddiol o electro, pync, drum ‘n’ bass a hip-hop, ac o ganlyniad caiff ei alw’n ‘Gen Z Tyler, The Creator’.

girlfriend.

A five-piece band from North Dublin, DIY heroes girlfriend formed in 2015, but time out and the pandemic led to their honed debut album To Be Quiet being released late in 2023. The wait was well worth it, with the band at the peak of their powers, channelling the ferocity of early grunge and slowcore into a uniquely raw and emotional sound that creates a compelling and explosive live show. girlfriend’s songs examine themes of intimacy, identity and trauma in post-Catholic Ireland with a deep appreciation for subtlety and catharsis.

/

Fe ffurfiodd girlfriend, band pum aelod o Ogledd Dulyn yn 2015, ond o ganlyniad i amser i ffwrdd a’r pandemig, fe gafodd eu halbwm début celfydd To Be Quiet ei ryddhau’n hwyr yn 2023. Roedd yn werth disgwyl amdano, gyda’r band ar anterth eu pwerau, yn sianelu ffyrnigrwydd grynj cynnar a slowcore i sain unigryw amrwd ac emosiynol sy’n creu sioe fyw rymus a ffrwydrol. Mae caneuon girlfriend yn archwilio themâu agosatrwydd, hunaniaeth a thrawma yn Iwerddon ôl-Gatholig gyda gwerthfawrogiad dwfn o gynildeb a chatharsis.

Lila Zing

Lila Zing is a bilingual singer-songwriter and producer from Wales, making waves with her experimental, delicate, eclectic sound and ethereal vocals. All of Lila's songs are tuned to a 432Hz frequency, which is believed to promote wellness. Fresh from a session for Georgia Ruth on BBC Radio Cymru, Lila is also currently part of the BBC Horizons Launchpad project, and one of ten artists selected for the Forté Artist Development Project. “Check her out she’s amazing.” Adam Walton, BBC Radio Wales

/

Cantores-gyfansoddwraig a chynhyrchwr dwyieithog o Gymru yw Lila Zing, sy’n creu tipyn o argraff gyda’i sain arbrofol, cain, eclectig a’i llais ysgafn. Mae holl ganeuon Lila wedi’u tiwnio i amledd o 432Hz, sydd, mae’n debyg, yn hybu lles. Yn dilyn ymlaen o sesiwn i Georgia Ruth ar BBC Radio Cymru, mae Lila hefyd yn rhan o brosiect Launchpad BBC Horizons ar hyn o bryd, ac yn un o ddeg artist i gael eu dewis ar gyfer Prosiect Datblygu Artistiaid Forté. “Check her out she’s amazing.” Adam Walton, BBC Radio Wales.

Megan Nic Ruairí

Megan Nic Ruairí is a singer songwriter from north west Donegal telling stories of romanticised love and self-exploration.Nic Ruairí embodies a massive sense of pride for her Irish heritage despite being born in London and raised in Nottingham, England. Her Irishness resonates confidently within her compositions without swaying far from a unique contemporary sound. You can clearly sense a patriotic love for the Irish language and poetry which enriched her young life in Donegal.

/

Cantores-gyfansoddwraig o ogledd orllewin Donegal yw Megan Nic Ruairí sy'n adrodd straeon am gariad rhamantaidd a hunanarchwilio. Mae ei natur Wyddelig yn atseinio’n hyderus drwy ei chyfansoddiadau, heb wyro’n bell o sain gyfoes unigryw. Mae’n hawdd synhwyro’r cariad gwladgarol at yr iaith Wyddeleg a’r farddoniaeth a gyfoethogodd ei bywyd ifanc yn Donegal.

Melin Melyn

Melin Melyn are one of the most talked about names in this next golden generation of Welsh artists. Having released two EPs in “Blomonj”  ‘Happy Gathering’ the six piece will already be familiar to festival goers, with their name rapidly rising up billings due to their critically acclaimed live shows.

/

Mae cryn sôn am Melin Melyn yn y genhedlaeth euraidd nesaf hon o artistiaid Cymreig. Ar ôl rhyddhau dwy EP, “Blomonj” a “Happy Gathering” bydd y grŵp chwe aelod eisoes yn gyfarwydd i’r rheiny sy’n mynychu gwyliau, gyda’u henw yn codi’n gyflym i dop y rhaglen o ganlyniad i’w sioeau byw sy’n denu canmoliaeth gan y beirniaid.

Morgana

Morgana's solo venture is a tapestry of her influences, with threads of Italo disco and electronic pop interwoven with her signature vocal style. She sets the stage for an experience that oscillates between euphoria and catharsis, promising listeners not just a performance, but a journey. Her music is an invitation: prepared to party, ready to cry. This September she will release her hotly anticipated debut single.

/

Mae menter unigol Morgana yn dapestri o’i dylanwadau, gydag edafedd o ddisgo Italo a phop electronig yn cydblethu â’i steil lleisiol unigryw. Mae hi'n gosod y llwyfan ar gyfer profiad sy'n pendilio rhwng gorfoledd a chatharsis, gan sicrhau nid perfformiad yn unig, ond taith i’w gwrandawyr. Gwahoddiad yw ei cherddoriaeth: yn barod am barti, yn barod i grio. Ym mis Medi eleni bydd yn rhyddhau ei sengl début y bu disgwyl brwd amdani.

Mr Phormula

Mr Phormula is a pioneering beat-boxer and live looping artist. With a career as diverse as the Welsh landscape within which he is rooted Mr Phormula’s inspired performances and vocal compositions have gained him international recognition as a leading beatboxer, rapper and producer.

/

Bît-bocsiwr ac artist lwpio byw arloesol yw Mr Phormula. Gyda gyrfa sydd mor amrywiol â thirwedd Cymru lle mae ei wreiddiau, mae perfformiadau ysbrydoledig a chyfansoddiadau lleisiol Mr Phormula wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol iddo fel bîtbocsiwr, rapiwr a chynhyrchydd blaenllaw.

New Jackson

David Kitt is a prolific sonic polymath who’s enjoyed a colourful career making whatever he likes. While releasing music under a vast array of aliases and collaborations for close to two and a half decades, NewJackson has remained his irregular home since 2011 for when ‘at one with the machines’. It offers a kaleidoscopic window into his love of dance music, and on his debut album under the alias FromNight To Night (released in 2017 on Dublin’s All City label) he unfurled his singular vision; a dilated suite of nocturnal soul coaxed from his beloved electronic equipment with songwriter’s nous, sonically etched as blunted whispers coalesced from the dusky billows of Dublin Bay.

/

Polymath sonig toreithiog yw David Kitt sydd wedi mwynhau gyrfa liwgar yn gwneud beth bynnag a fynno. Er iddo ryddhau cerddoriaeth o dan amrywiaeth eang o ffugenwau a chydweithrediadau am bron i bum mlynedd ar hugain, mae New Jackson wedi parhau fel cartref afreolaidd iddo ers 2011 ac mae’n ‘gytûn â’r peiriannau’. Mae’n cynnig ffenestr galeidosgopig i’w gariad at gerddoriaeth ddawns, ac ar ei albwm début o dan y ffugenw From Night To Night (a ryddhawyd yn 2017 ar label All City, Dulyn) fe ddatgelodd ei weledigaeth unigol; cyfres eang o soul nosol wedi'i hudo o'i hoff gyfarpar electronig gyda deallusrwydd cyfansoddwr caneuon, wedi'i ysgythru'n sonig fel sibrydion pŵl wedi'u hasio ynghyd o donnau ewynnog Bae Dulyn.

Niamh Bury

Niamh Bury is one of the most exciting new voices on the Irish folk scene, nominated for ‘Best Emerging Artist at the RTE Folk Awards in her first few months out. Her debut album, Yellow Roses released March 2024 quickly stirred hearts and received wide critical acclaim, with Irish Times christening her Ireland’s "most interesting new star" and Mojo magazine quoted “prepare to be transported". Bury’s richly-textured folk sound and expressionistic storytelling has led her to share stages with Ye Vagabonds, Dermot Kennedy, Martin Hayes - she’s a folk act on the rise, and not to be missed.

/

Niamh Bury yw un o’r lleisiau newydd mwyaf cyffrous ar y sîn werin yn Iwerddon ac mae ei halbwm cyntaf, Yellow Roses (2024), yn cynhyrfu calonnau ac yn derbyn canmoliaeth y beirniaid ym mhob man. A’i gwreiddiau yn ei chartref genedigol, Gogledd Dulyn, mae dull unigryw Niamh o ysgrifennu caneuon a’i llais, cyfoethog, cyfareddol “peek at the world from deliciously unlikely angles... (on) an immaculate debut album” The Irish Times. Ynghyd ag ØXN a Lemoncello, hi yw un o’r artistiaid newydd cyntaf mewn ugain mlynedd bron i gael ei llofnodi i label recordiau mwyaf diwylliannol bwysig Iwerddon, Claddagh Records.

OLIVE HATAKE

Informed by a world of creative and cultural influences, OLIVE HATAKE is an innovative presence on the Irish electronica scene. He draws from the world around him – including the growing right wing movement in Ireland, the pressures of masculinity, relationships and a journey into the world of Brazilian Jiu-Jitsu.

/

Wedi’i lywio gan fyd o ddylanwadau creadigol a diwylliannol, presenoldeb arloesol yw OLIVE HATAKE ar y sîn electronica yn Iwerddon. Mae’n tynnu ar y byd o’i gwmpas – gan gynnwys twf y mudiad asgell dde yn Iwerddon, y pwysau ynghlwm wrth wrywdod, perthnasoedd a siwrnai i fyd Jiu-Jitsu Brasil.

Otto Aday

Otto Aday, a versatile singer, songwriter, multi-instrumentalist, and producer from Wales, creates music that transcends eras and genres, resonating in any decade. His sound, shaped by a sea of experiences and emotions, blends an alternative spirit with nostalgic melodies, British rock ‘n’ roll energy, and a touch of sixties psychedelia.

/

Canwr, ysgrifennwr caneuon, aml-offerynnwr a chynhyrchydd amryddawn o Gymru yw Otto Aday. Mae’n creu cerddoriaeth sy’n mynd y tu hwnt i oesau a genres ac sy’n taro nod mewn unrhyw ddegawd. Mae ei sain, sydd wedi’i ffurfio gan fôr o brofiadau a theimladau, yn asio ysbryd amgen gyda melodïau hiraethus, egni roc a rôl Prydeinig, ac ychydig o seicedelia’r chwedegau.

PARCS

PARCS are a four piece indie, electronic pop band from South Wales. Consisting of lead singer Elly Sinnett, backing vocals/bass/keyboard Kristy Cromwell, guitar/bass/production Joe Coote & guitar/production Liam Tucker, PARCS strive to create sad synth pop you can kind of dance to.

/

Band pop indi, electronig pedwar aelod o Dde Cymru yw PARCS. Gyda’r prif ganwr Elly Sinnett, llais cefndir/bas/bysellfwrdd Kristy Cromwell, gitâr/bas/cynhyrchu Joe Coote a gitâr/cynhyrchu Liam Tucker, mae PARCS yn ymdrechu i greu pop synth trist y gallwch chi ddawnsio iddi rywfaint.

People and Other Diseases

Primitive post-punk three piece from Swansea, South Wales.Fractured and misanthropic, murky grunge for fans of The Fall, Magazine, Joy Division and Wire. An intense live show, with tunes about soulless careerist creatives, the gods of Egypt and cheap waterproofs. Have supported the likes of Idles, The Wytches and Life.

/

Grŵp tri aelod ôl-bync cyntefig o Abertawe, De Cymru. Yn doredig ac yn fisanthropig, dyma grynj tywyll i gefnogwyr The Fall, Magazine, Joy Division a Wire. Sioe fyw ddwys, gyda chaneuon am bobl greadigol dienaid sy’n byw am eu gyrfa, duwiau’r Aifft a dillad dal dŵr rhad. Maen nhw wedi cefnogi pobl fel Idles, The Wytches a Life.

Phil Kieran

Phil Kieran is a renowned music producer, DJ, and artist from Belfast. Known for his innovative sound and dynamic productions, he has released acclaimed tracks on top labels and played at major festivals worldwide. Phil's work spans genres, always pushing boundaries with his unique style.

/

Cynhyrchydd cerddoriaeth, DJ, ac artist enwog o Belfast yw Phil Kieran. Ac yntau’n adnabyddus am ei sain arloesol a’i gynyrchiadau deinamig, mae wedi rhyddhau traciau clodwiw ar brif labeli ac wedi chwarae mewn gwyliau mawr ledled y byd. Mae gwaith Phil yn rhychwantu genres, bob amser yn gwthio ffiniau gyda'i arddull unigryw.

Rona Mac

Rona Mac, a queer alt-folk artist from West Wales, is a trailblazer for expression within music, and truly independent.

/

Mae Rona Mac, artist gwerin-amgen cwiar o Orllewin Cymru, yn arloeswr o ran mynegiant yng ngherddoriaeth, ac yn wirioneddol annibynnol.

Sage Todz

Sage Todz is one of Wales’s premier talents at the forefront of the Welsh rap scene. He first gained wider attention through combining Welsh lyrics with aspects of his distinct UK rap sound. Sage’s melodic and memorable choruses are contrasted by sharp rap ability and themes of identity, heritage and culture.

/

Sage Todz yw un o brif dalentau Cymru ar flaen y sîn rap yng Nghymru. Enillodd sylw ehangach yn gyntaf trwy gyfuno geiriau Cymraeg ag agweddau o'i sain rap Prydeinig unigryw. Caiff cytganau melodaidd a chofiadwy Sage eu cyferbynnu gan ei allu rap miniog a themâu hunaniaeth, treftadaeth a diwylliant.

Search Results

Search Results are a three-piece alternative rock band based in Dublin. Fionn, Jack and Adam formed Search Results after moving to Dublin in 2019. They bonded over their love for punk, garage rock and folk, emulating the energy of bands such as Parquet Courts and The Velvet Underground.  ‘Information Blip’, the band’s debut album, was released to streaming and vinyl in September ‘23 in partnership with ‘Blowtorch Records’.

/

Band roc-amgen tri aelod o Ddulyn yw Search Results. Ffurfiodd Fionn, Jack ac Adam Search Results yn 2019. Fe wnaethant uno dros eu cariad at bync, roc garej a gwerin gan efelychu egni bandiau fel Parquet Courts a The Velvet Underground. Cafodd ‘Information Blip’, albwm début’r band ei ryddhau, i’w ffrydio ac ar finyl ym mis Medi ‘23 mewn partneriaeth â ‘Blowtorch Records’.

Skunkadelic

Skunkadelic is the moniker of Cardiff based Tumi Williams, a trailblazing emcee, artist and educator making giant strides in the UK hip hop scene today. His erudite lyrics and signature rich baritone can be heard across his solo work ‘Musically Drifting’, ‘No Time’ and as a collaborator with the likes of The Allergies, Ty, Stagga, Magugu, Mazbou Q, Mr Woodnote and Band Pres Llareggub. He also fronts the nine piece Welsh afro-funk collective Afro Cluster who are currently working on their eagerly anticipated second album following 2021’s celebrated debut ‘The Reach’. Skunkadelic’s multi-genre aesthetic is always refreshing, taking inspiration from the cerebral sensibilities of jazz rap (ATCQ, The Roots, Guru, The Pharcyde, De La Soul) and blending it with the invigorating sounds of his ancestral Nigeria (Fela Kuti, Tony Allen) culminating in an authentic voice empowered by generations of diverse music.

/

Skunkadelic yw llysenw Tumi Williams o Gaerdydd, emcee, artist ac addysgwr arloesol sy’n mynd o nerth i nerth ar y sîn hip-hop yn y DU ar hyn o bryd. Gellir clywed ei eiriau hyddysg a’i lais bariton cyfoethog nodweddiadol trwy gydol ei waith unigol, ac mae hefyd yn arwain y grŵp ffync-affro, Afro Cluster. Mae natur esthetig aml-genre Skunkadelic bob amser yn braf, gan gymryd ysbrydoliaeth o deimladrwydd deallusol jazz, rap a soul, a’u hasio gyda seiniau adfywiol Nigeria ei gyndeidiau er mwyn roi llais dilys iddo wedi’i rymuso gan genedlaethau o gerddoriaeth amrywiol.

Slate

Four-piece Slate from Cardiff have been stirring up a small whirlwind since their debut single Tabernacl emerged last year. Joined recently by an equally impressive debut EP Deathless, the band are barely touching their twenties, yet their sound has an extraordinary passion, gravitas and intensity. Self-confessed lovers of words, Slate make atmospheric post-punk that thrills with its haunting atmosphere and moments of ethereal beauty; this is glorious music to fall into.

/

Ers i’w sengl début Tabernacl ddod allan y llynedd, mae Slate y grŵp pedwar aelod o Gaerdydd wedi bod yn creu ychydig o gorwynt. Yn ymuno â’r sengl honno’n ddiweddar, roedd EP début yr un mor drawiadol, sef Deathless. Prin mae’r band yn eu hugeiniau, ond eto mae gan eu sain angerdd, gravitas a dwyster rhyfeddol. Gyda’u hoffter am eiriau, mae Slate yn cynhyrchu post-pync llawn naws sy'n gwefreiddio gyda'i awyrgylch brawychus a'i eiliadau o harddwch ysgafn; dyma gerddoriaeth ogoneddus i ymdrochi ynddi.

Tafod Arian

Tafod Arian (Silver Tongue) is Welsh composer and singer Lleuwen Steffan's recent project. with the recently discovered lost Welsh traditional hymns . She came across these unknown hymns at the sound archive of St Fagan's Museum of Welsh Folk. They were excluded by the all-male hymn book commitiees of their time and are now reinvented and taken back to where they were born.

/

Tafod Arian yw prosiect diweddar y gyfansoddwraig a’r gantores Lleuwen Steffan sy’n seiliedig ar emynau traddodiadol Cymraeg coll a ddarganfuwyd yn ddiweddar. Fe ddaeth hi ar draws yr emynau anhysbys hyn yn archif sain Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Cawsant eu gadael allan gan bwyllgorau llyfrau emynau cwbl wrywaidd eu hoes, ac maen nhw bellach yn cael eu gweddnewid a'u cludo yn ôl i'r man lle cawsant eu geni.

Tara Bandito

Wrestler’s daughter Tara Bandito released her 1st single Blerr in 2022 and self-titled debut album in 2023 with lead track "Croeso i Gymru" snapped up by Craig Charles on BBC 6 Music. Quoted a “formidable live artist” by BBC Introducing's Bethan Elfyn, Bandito consistently delivers a raw, pumping art-pop SHOW.

/

Rhyddhaodd merch y reslwr, Tara Bandito, ei sengl 1af Blerr yn 2022 a’i halbwm début yn 2023 gyda’r prif drac “Croeso i Gymru” yn cael ei chwarae gan Craig Charles ar BBC 6 Music. Gyda Bethan Elfyn o BBC Introducing yn cyfeirio ati fel “artist byw aruthrol”, mae Bandito yn cyflwyno SIOE bop-gelf amrwd a bywiog bob tro.

The Family Battenberg

Self-produced four-piece garage/psych rock band based in Cardiff, South Wales. Indulging in their DIY ethos, the band delivers their brand of 70s rock and roll flavoured guitar riffs amidst a blend of driving motorik rhythms, percussive flair, and curious lyrical content.

/

Band garej/seicadelig pedwar aelod o Gaerdydd, De Cymru sy’n cynhyrchu eu gwaith eu hunain. Gan fynd i’r afael a’u hethos DIY, mae’r band yn cyflwyno eu brand nhw eu hunain o riffiau gitâr ag arnynt flas roc a rôl y 70au ynghyd â chyfuniad o rythmau motorik egnïol, dawn ergydiol, a chynnwys telynegol chwilfrydig.

The Gentle Good

The Gentle Good is the moniker of Cardiff-based musician and songwriter Gareth Bonello. Known for his enchanting melodies, intricate guitar style and beautiful acoustic arrangements, Gareth is one of the foremost songwriters in Wales today.

/

Enw llwyfan Gareth Bonello, y cerddor a chyfansoddwr o Gaerdydd yw The Gentle Good. Ac yntau’n adnabyddus am ei felodïau cyfareddol, arddull gitâr cain a’i drefniadau gitâr acwstig hyfryd, Gareth yw un o’r cyfansoddwyr caneuon blaenaf yng Nghymru heddiw.

Tiny Leaves

Joel Pike is Tiny Leaves. Over a series of records, he has crafted a realm where gentle and insistent piano motifs brush against shimmering guitars, and electronic sounds, where strings swell before falling away. Tiny Leaves' work is a gentle and meaningful exploration of his nature-inspired musical landscapes.

/

Joel Pike yw Tiny Leaves. Dros gyfres o recordiau unigol, mae wedi llunio byd lle mae motiffau piano ysgafn yn dod i gysylltiad â chwarae gitâr disglair, a seiniau electronig, lle mae llinynnau'n chwyddo cyn disgyn eto. Mae gwaith Tiny Leaves yn archwiliad tyner ac ystyrlon o’i seinweddau sydd wedi’u hysbrydoli gan natur.

Virgins

Virgins are one of the most exciting bands to come out of Ireland in recent times. A Belfast based shoegaze band that have quickly established themselves as a live force heralded as ‘the best fuzz guitar band since my bloody valentine’.

/

Virgins yw un o’r bandiau mwyaf cyffrous i ddod o Iwerddon yn ddiweddar. Band stargaze o Belfast, maen nhw wedi sefydlu eu hunain yn gyflym fel grym byw a chyfeirir atynt fel ‘the best fuzz guitar band since my bloody valentine’.

How to get to Cardigan

How to get to Cardigan

If you’d like to join us on our Welsh adventure this October, we’ve put together a handy travel guide to help you get there!

From Ireland

Ireland Drive via Holyhead:

  • Drive from Dublin to Dublin Port
  • Take a ferry from Dublin Port to Holyhead (Ferry tickets)
  • Drive from Holyhead to Cardigan (52.085838789596714, -4.6605764903234785)

Ireland to Wales Ferry Route via Rosslare and Fishguard:

  • Drive from Dublin to Rosslare Harbour
  • Catch a ferry from Rosslare Harbour to Fishguard (Ferry tickets)
  • Proceed from Fishguard to Cardigan (52.085838789596714, -4.6605764903234785)

Fly and Train/Taxi Route via Dublin and Cardiff.

  • Fly from Dublin Airport to Cardiff (Find a flight)
  • Take a train from Rhoose Barry to Bridgend and Carmarthen (Find a train)
  • Reach Cardigan from Carmarthen via taxi

Belfast Voyage via Air, Train, or Drive:

  • Fly from Belfast City Airport to Cardiff (CWL) (Find a flight)
  • Journey from Rhoose Barry to Bridgend and Carmarthen by train (Find a train)
  • Alternatively, drive from Carmarthen to Cardigan

SUT I GYRRAEDD ABERTEIFI

Os hoffech chi ymuno â ni ar ein hantur i Gymru ym mis Hydref eleni, rydyn ni wedi llunio canllaw teithio defnyddiol i’ch helpu chi i gyrraedd yno!

O Iwerddon

Gyrru – gan adael o Gaergybi:

  • Gyrru o Ddulyn i Borthladd Dulyn
  • Teithio ar y fferi o Borthladd Dulyn i Gaergybi (tocynnau fferi)
  • Gyrru o Gaergybi i Aberteifi
    (52.085838789596714, -4.6605764903234785)

Fferi - Iwerddon i Gymru gan deithio rhwng Rosslare ac Abergwaun:

  • Gyrru o Ddulyn i Borthladd Rosslare
  • Teithio o Abergwaun i Aberteifi
    (52.085838789596714, -4.6605764903234785)

Hedfan a Thrên/Tacsi  - rhwng Dulyn a Chaerdydd.

  • Hedfan o Faes Awyr Dulyn i Gaerdydd (Dod o hyd i daith awyr)
  • Cymryd trên o’r Rhws, y Barri i Ben-y-bont ar Ogwr a Chaerfyrddin
    (Dod o hyd i drên)
  • Cyrraedd Aberteifi o Gaerfyrddin mewn tacsi

Teithio o Felfast - Hedfan, Trên, neu Yrru:

  • Hedfan o Faes Awyr Dinas Belfast i Gaerdydd (CWL) (Dod o hyd i daith awyr)
  • Teithio o’r Rhws, y Barri i Ben-y-bont ar Ogwr a Chaerfyrddin ar y trên (Dod o hyd i drên)
  • Neu, gyrru o Gaerfyrddin i Aberteifi