Cerys Hafana

Cerys Hafana is a composer and multi-instrumentalist who mangles, mutates, and transforms traditional music. She explores the creative possibilities and unique qualities of the triple harp, and is also interested in found sounds, archival materials and electronic processing. She comes from Machynlleth, Wales, where rivers and roads meet on the way to the sea.

Edyf, her second album, released in 2022, was selected as one of The Guardian’s Top Ten folk albums of 2022 and is on the shortlist for the Welsh Language Album Of The Year in 2023.  

Edyf is largely based on material found in the Welsh National Library’s online archive, including fragments of Psalm tunes, hymns about doomsday and philosophical musings on the length of eternity, along with some original compositions. The album is primarily performed on the Welsh triple harp, but also features bodhrán, double bass, althorn and the electronically processed sounds of a water bottle being hit.
Cyfansoddwraig ac aml-offerynwraig yw Cerys Hafana sy’n manglo, ail-lunio a thrawsnewid cerddoriaeth draddodiadol. Mae ei cherddoriaeth yn chwarae gyda phosibiliadau unigryw’r delyn deires, yn ogystal â seiniau hapgael, deunyddiau archifol a phrosesu electronig. Mae’n hanu o Fachynlleth, Cymru, lle mae afonydd a ffyrdd yn cwrdd ar y ffordd i’r môr.

Rhyddhawyd Edyf, ei hail albwm, yn 2022, a chafodd ei ddewis fel un o Ddeg Albwm Gwerin Gorau 2022 gan y Guardian ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2023. Mae Edyf yn seiliedig i raddau helaeth ar ddeunydd a geir yn archif ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol, gan gynnwys darnau o alawon salm, emynau sy’n sôn am Ddydd y Farn a myfyrdodau athronyddol ynghylch hyd tragwyddoldeb, yn ogystal ag ambell gyfansoddiad gwreiddiol. Yn bennaf, caiff yr albwm ei berfformio ar y delyn deires, ond mae hefyd yn cynnwys y bodhrán, y bas dwbl, yr althorn, a seiniau wedi'u prosesu'n electronig o botel ddŵr yn cael ei tharo.

No items found.