Bill Ryder-Jones, Fabiana Palladino, Georgia Ruth & more announced for OV Cardigan

Bill Ryder-Jones, Fabiana Palladino, Georgia Ruth & more announced for OV Cardigan

June 17, 2024

· 31 October - 2 November 2024 

· Live & Online from West Wales

· Earlybird weekend wristbands just £35 on sale now

**Wristband purchase includes automatic entry into the prize draw for Church tickets**

The OV Cardigan line up has landed 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

We’re thrilled to return to Wales from 31 October to 2 November for three days of music and magic. As always, we’ll be bringing you some songs for the head & heart by some OV favourites along with debut must-see acts, and we’re so excited to announce the first wave of incredible performers making their way West for OV Cardigan 2024! ✨

St Mary's Church Line Up

Lighting up the sacred St Mary’s Church will be Welsh Music Prize winner Georgia Ruth, acclaimed songwriter and producer Bill Ryder-Jones and, with a debut album tipped by the Guardian as one of 2024’s best, Fabiana Palladino will also play with many more TBA!

Welsh legend Huw Stephens will be bringing you all their performances live and online from heart of Cardigan via the OV YouTube on 1 & 2 November. Scroll on to find out how to nab yourself tickets for their intimate performances.

The Music Trail 🪩

Across the weekend, along the Music Trail there will over 80 live sets, where the brightest and best new acts from Ireland, Wales and beyond will take to the stage in some of Cardigan’s most beloved venues. With trailblazing talent spanning a multitude of genres, you’ll be sure to find your favourite new act at #OVC2024.

With many more artists still to be announced in the coming weeks, 2024’s Music Trail will feature:

ADJUA | Big Sleep | Chubby CatCynefin | David Kitt | Don Leisure | DUG | Eoghan Ó Ceannabháin| Filmore! | girlfriend. | Lila Zing | Tafod Arian | Megan Nic Ruairí | Melin Melyn | Minas | Minas presents Niques, Em Koko & Po Griff | Morgana | Mr Phormula | New Jackson | Niamh Bury | OLIVE HATAKE | Otto Aday | PARCS | People and Other Diseases | Phil Kieran | Rona Mac | Sage Todz | Search Results | Skunkadelic | Slate | Tara Bandito | The Family Battenberg | The Gentle Good | Tiny Leaves | Virgins & more to be announced 

The full line up will be announced in the coming months so keep an eye out on the OV and Mwldan socials! Earlybird Music Trail wristbands will give you access to every show along the Trail and are on sale now for just £35.

BOOK HERE

Clebran ☁️

Beyond the musical happenings, your wristband includes unlimited access to Clebran. Taking place at Mwldan in the heart of Cardigan, this discursive strand of Other Voices Cardigan brings together artists, advocates, thinkers and policy makers from Ireland and Wales to discuss some of the most important topics of our time, offering new perspectives and capturing the imagination. 

Clebran will take place across the three-day festival, with the line-up soon to be announced so keep your eyes peeled!

And new for OV Cardigan 2024 will be ‘Clebran on The Trail’ - a series of inspiring conversations with musicians across the town, exploring the things that fuel their creative fire and the passions they hold dear.

A Music Trail wristband gives unlimited access to all Clebran discussions. Clebran is co-curated by Ireland's Edge.

Earlybird wristbands 🎫

Earlybird wristbands are on sale now at just £35, rising to £50 on 1 July.

What you get with a wristband:

  • Unlimited access to over 80 live sets from some of the most exciting acts from Wales, Ireland & beyond
  • Unlimited access to all Clebran and Clebran on the Trail sessions
  • Automatic entry into a draw for golden tickets to The Church performances

BOOK NOW

Other Voices Cardigan is staged with the support and investment of Welsh Government and The Department of Tourism, Culture, Arts, Gaeltacht, Sport and Media and is produced by South Wind Blows in partnership with Mwldan and Triongl. This project is part-funded by the UK Government through the UK Shared Prosperity Fund, Levelling Up supported by Ceredigion County Council. The event will be filmed by Triongl for later broadcast.

------

Y don gyntaf o actau wedi'u datgelu ar gyfer Lleisiau Eraill Aberteifi 2024!

Mae Bill Ryder Jones, Fabiana Palladino a  Georgia Ruth i gyd wedi’u cyhoeddi ar gyfer prif slotiau yn Eglwys y Santes Fair, ynghyd â dros 20 o berfformwyr ar gyfer y Llwybr Cerdd!

· 31ain Hydref - 2il Tachwedd 2024

· Yn Fyw ac Ar-lein o Orllewin Cymru

· Bandiau arddwrn pris cynnar am £35 yn unig am dridiau o gerddoriaeth, trafod a syniadau

**Mae prynu band arddwrn yn cynnwys mynediad awtomatig i'r raffl am docynnau i’r Eglwys**

Dyma i chi Lein-yp Lleisiau Eraill!

Rydym wrth ein bodd i ddychwelyd i Gymru o 31 Hydref tan 2 Tachwedd am dridiau o gerddoriaeth a hud. Fel bob amser, byddwn yn cyflwyno rhai o ffefrynnau OV i chi ynghyd ag actau début y mae’n rhaid eu gweld, ac rydym mor gyffrous i gyhoeddi’r don gyntaf o berfformwyr anhygoel ar gyfer OV Aberteifi 2024! ✨

Mae bandiau arddwrn pris cynnar ar werth nawr am £35 yn unig, yn codi i £50 a byddant yn rhoi mynediad anghyfyngedig i chi i’r Llwybr Cerdd, Clebran ac yn eich cynnwys mewn raffl am docynnau aur i Eglwys y Santes Fair ⛪️

Daliwch ati i sgrolio er mwyn bachu'ch band arddwrn a chael gwybod am yr holl newyddion diweddaraf 🎫

Eglwys Y Santes Fair

Yn goleuo Eglwys gysegredig y Santes Fair, enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Georgia Ruth, y cyfansoddwr a’r cynhyrchydd clodwiw Bill Ryder Jones a, gydag albwm début sydd wedi derbyn sêl bendith gan y Guardian fel un o oreuon 2024, Fabiana Palladino.

Darllenwch ymlaen i weld sut allwch fachu tocynnau ar gyfer eu perfformiadau. 💒

Y Llwydr Cerdd

Ymunwch â ni ar y Llwybr Cerdd ar gyfer dros 90 o setiau byw, lle byddwn yn dod â rhai o’r actau newydd gorau a mwyaf disglair o Iwerddon, Cymru a thu hwnt i rai o leoliadau mwyaf cartrefol Aberteifi. Gyda thalent arloesol sy’n cwmpasu llu o genres, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i’ch hoff act newydd yn #OVC2024.

Gyda llawer mwy o artistiaid eto i'w cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf, bydd y Llwybr Cerdd 2024 yn cynnwys:

ADJUA | Big Sleep | Chubby CatCynefin | David Kitt | Don Leisure | DUG | Eoghan Ó Ceannabháin| Filmore! | girlfriend. | Lila Zing | Tafod Arian | Megan Nic Ruairí | Melin Melyn | Minas | Minas presents Niques, Em Koko & Po Griff | Morgana | Mr Phormula | New Jackson | Niamh Bury | OLIVE HATAKE | Otto Aday | PARCS | People and Other Diseases | Phil Kieran | Rona Mac | Sage Todz | Search Results | Skunkadelic | Slate | Tara Bandito | The Family Battenberg | The Gentle Good | Tiny Leaves | Virgins & more to be announced 

Caiff y lein-yp llawn ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf felly cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol OV a’r Mwldan! Bandiau arddwrn Pris Cynnar y Llwybr Cerdd ar werth nawr. ARCHEBWCH YMA

Clebran

Ochr yn ochr â'r rhaglen gerddoriaeth fyw, mae eich band arddwrn yn cynnwys mynediad anghyfyngedig i Clebran. Mae’r elfen sgyrsiol hon o Leisiau Eraill Aberteifi a gynhelir yn y Mwldan yng nghanol Aberteifi, yn dod ag artistiaid, hyrwyddwyr, meddylwyr a llunwyr polisi o Iwerddon a Chymru ynghyd i drafod rhai o bynciau pwysicaf ein hoes, gan gynnig safbwyntiau newydd a thanio’r dychymyg. 

Cynhelir Clebran yn y prynhawn/gyda’r nos ddydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn ar draws yr ŵyl dridiau, gyda’r lein-yp i’w gyhoeddi cyn hir, felly cadwch lygad allan!

Ac yn newydd i Leisiau Eraill Aberteifi 2024 fydd ‘Clebran ar Hyd y Llwybr – cyfres o sgyrsiau ysbrydoledig gyda cherddorion ar draws y dref, yn archwilio’r pethau sy’n bwydo eu creadigrwydd, y pethau sy’n bwysig iddynt.

Mae band arddwrn Llwybr Cerdd yn rhoi mynediad anghyfyngedig i holl drafodaethau Clebran. Mae Clebran yn cael ei churadu ar y gyd gan Ireland's Edge

Bandiau Arddwrn


Bandiau arddwrn ar werth nawr am £35, yn newid i £50 ar 1af Gorffennaf. ARCHEBWCH NAWR 

Yr hyn a gewch chi gyda band arddwrn:

Mynediad i dros 90 o setiau byw gan rai o actau mwyaf cyffrous Cymru, Iwerddon a thu hwnt

  • Mynediad anghyfyngedig i dros 90 o setiau byw ar hyd y Llwybr Cerdd
  • Mynediad anghyfyngedig i holl sesiynau Clebran a Clebran ar Hyd y Llwybr
  • Cyfle i ennill tocynnau aur i'r Eglwys mewn raffl  

Mae Lleisiau Eraill Aberteifi yn cael ei lwyfannu gyda chefnogaeth a buddsoddiad Llywodraeth Cymru a’r Adran Twristiaeth, Diwylliant, y Celfyddydau, y Gaeltacht, Chwaraeon a’r Cyfryngau ac fe’i cynhyrchir gan South Wind Blows mewn partneriaeth â Mwldan a Triongl. Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Ffyniant Bro gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ceredigion. Bydd y digwyddiad yn cael ei ffilmio gan Triongl i'w ddarlledu yn ddiweddarach ar RTÉ.

Share!