The first 30 acts announced for this year's Other Voices Cardigan!

The first 30 acts announced for this year's Other Voices Cardigan!

September 3, 2023

Sans Soucis, Susan O'Neill, Adwaith & Cerys Hafana are all set for headline slots in St Mary's Church with over 25 names revealed for the Music Trail and Clebran!

· 26 - 28  October 2023 

· Live & Online from West Wales

· Wristbands just £25 for three days of music, discussion and ideas

· The first wave of incredible voices joining us in Wales this October have just been announced!

Wristband purchase includes automatic entry into the prize draw for Church tickets 

BOOK NOW

💞 The OV Cardigan Line Up is here 💞

We're delighted to reveal the first wave of incredible acts joining us for OV Cardigan 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

We’ll be returning to West Wales 26-28 October for three days and nights of songs and stories bringing some OV favourites and must-see rising stars with us for the ride 🎡  Earlybird wristbands are on sale now at just £25, rising to £35 and will give you unlimited access to the Music Trail, Clebran and enter you into a draw for golden tickets for St Mary’s Church ⛪️

Keep scrolling to grab your wristband now plus all the latest news 🎫

ST MARY'S CHURCH

Hitting the sacred stage of St Mary’s Church will be Ireland’s best-kept secret Susan O’Neill, Italian alt-pop sensation Sans Soucis, extraordinary triple harpist Cerys Hafana and double Welsh Music Prize winners Adwaith, with many more to be announced. Keep scrolling to find out how to nab tickets for their performances. 💒

Welsh post - punk four-piece Adwaith have been busy making history since the last time we met them, becoming the first band ever to scoop the Welsh Muscic Prize twice for their albums ‘Melyn’ and ‘Bato Mato’. With support slots for the likes of Idles and Manic Street Preachers plus an acclaimed Glastonbury sets under their belts, they’ll make their way home to Wales to play St Mary’s Church for the very first time the October!
After years refining her solo act, Susan O’Neill has solidified herself as a songwriter with depth and an ageless voice, both soothing and fierce. She's a bold spirit, a true performer, and until recently, Ireland's secret gem. That all changed with 'In The Game,' her collab album with Mick Flannery. The album nabbed nominations for Choice Music prize and RTÉ Radio 1 Folk Awards, clinching 'Album of the Year' and 'Female Folk Artist.' 'Now You See It' from her solo EP, won RTE Radio 1's 'Best Original Folk Song' in 2022. Get ready for Susan's dazzling solo performance!
Cerys Hafana is a composer/multi-instrumentalist who mangles, mutates and transforms traditional music. She explores the creative possibilities and unique qualities of the triple harp, as well as found sounds, archival materials and electronic processing. She comes from Machynlleth, Wales, where rivers and roads meet on the way to the sea. As one of the toasts of last year's Music Trail, Cerys returns to Cardigan for one of the most hotly anticipated sets of the weekend.
Sans Soucis makes music that invigorates the soul. Born out of a desire to reconnect with the uninhibited joyfulness and authenticity of childhood that all of us lose as we grow older, their music is a radical act of reclamation. Receiving praise from The Guardian, Paper Mag, The Independent, Fader, The Forty-Five, Pitchfork and more, it combines elements of Congolese Rumba, classic Italian songwriting, electronic R&B and alt-pop sounds. Accolades include the Music Music Moves Europe ‘Grand Jury’ prize, inclusion in Spotify’s global RADAR campaign, and TicketMaster’s breakthrough artist for 2023. 

They’ll be performing live and online with all St Mary’s Church sets being streamed to the world via the Other Voices YouTube and presented by our good pal and all round Welsh legend Huw Stephens. Golden tickets for these intimate performances will be available through competitions. Book your Music Trail wristband now to be entered into a draw to win a pair of golden tickets to a Church performance. BOOK NOW

THE MUSIC TRAIL

Beyond the Church we'll be bringing you the sounds of some of the brightest new acts from Wales and Ireland along the Music Trail. Join us for three days and nights of incredible live sets in some of Cardigan's coolest venues. From hip-hop to folk, via grime, punk and soul you'll be guaranteed to find your favourite new band on the Music Trail before anywhere else. 🪩

With more artists still to be announced, the Music Trail will feature: amy michelle | Angharad | Chalk | Climbing Trees | Dead Method | Fia Moon | Gwilym Bowen Rhys | HMS Morris | Joshua Burnside | Lemoncello | Les SalAmandas | Mace The Great | MALI HÂF | Mellt | Minas | Mount Palomar | Samana | Scustin | Seba Safe | Tara Bandito | Uly

The full line up will be announced in the coming weeks so keep an eye out on the OV and Mwldan socials! Earlybird Music Trail wristband on sale now. BOOK HERE

CLEBRAN

In addition to the live music programme, an Other Voices Cardigan wristband includes unlimited access to Clebran - Flowing Tides, where some of Wales and Ireland’s most compelling voices will come together for a series of intimate and invigorating discussions and stories, as well as some very special performances. This insightful and fascinating group of thinkers, writers, historians, musicians, linguists, advocates and policy makers will discuss culture, power, representation, the future and much more, all the while capturing our imaginations.  

Taking place at Mwldan in the heart of Cardigan, this year’s Clebran programme will consider the unprecedented challenges of our time, but also the possibilities, opportunities and solutions. These discussions will look at the local and the global, the periphery and the centre, community and wider society, and how small movements can bring about significant change.

This year’s Clebran features a collection of incredible speakers; Author and broadcaster Jon Gower, harpist Cerys Hafana, Associate Professor of Early Modern History John Gallagher; writer, composer and performer Daf James; writer-director Tracy Spottiswoode; writer, podcaster and journalist Damian Kerlin; journalist and author Richard Fisher, Senior Lecturer in Applied Psychology Dr Sharon Lambert and historian, writer and reviewer Christopher Kissane, with more to announce in the coming weeks. Clebran will take place in the afternoons/evenings of Thursday, Friday and Saturday across the three-day festival.

A Music Trail wristband gives unlimited access to the Clebran discussions. Clebran is co-curated by Ireland's Edge.

WRISTBANDS

Wristbands on sale now at £25, changing to £35 on 1st October. BOOK NOW

What you get with a wristband:

Access to over 80 live sets from some of the most exciting acts from Wales, Ireland & beyond

  • Unlimited Access to over 80 live sets along the Music Trail
  • Unlimited access to all Clebran sessions
  • Entry into a draw for golden tickets to The Church
  • Entry into the draw to win a number of extraordinary prizes from local businesses

OV CARDGIAN 2023 PLAYLISTS

Explore the sounds of the line up so far with the official OV Cardigan playlist's

____

Other Voices Cardigan 2023 is made possible with the support of Welsh Government and The Department of Tourism, Culture, Arts, Gaeltacht, Sport and Media and is produced by South Wind Blows in partnership with Mwldan and Triongl. The event will be filmed by Triongl for later broadcast on S4C and RTÉ.

____

KEEP THEM FIXED

Follow @othervoiceslive and @mwldan for all the latest news with lots more surprises coming your way in the next few weeks!

Y 30 act gyntaf ar gyfer Lleisiau Eraill Aberteifi eleni wedi’u cyhoeddi!

Bydd Sans Soucis, Susan O'Neill, Adwaith a Cerys Hafana i gyd yn perfformio prif slotiau yn Eglwys y Santes Fair gyda dros 20 o enwau wedi'u datgelu ar gyfer y Llwybr Cerdd a Clebran!

__

· 26 - 28 Hydref 2023

· Yn fyw ac Ar-lein o Orllewin Cymru
· £25 yn unig yw bandiau arddwrn am dridiau o gerddoriaeth, trafodaeth a syniadau

Mae prynu band arddwrn yn cynnwys mynediad awtomatig i'r raffl am docynnau Eglwys

Dyma i chi Lein-yp Lleisiau Eraill Aberteifi💞

Mae'n bleser gennym ddatgelu'r don gyntaf o berfformwyr anhygoel a fydd yn ymuno â ni ar gyfer Lleisiau Eraill Aberteifi 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Byddwn yn dychwelyd i Orllewin Cymru 26-28 Hydref am dri diwrnod a thair noson o ganeuon a straeon gan ddod â ffefrynnau Lleisiau Eraill a sêr y dyfodol gyda ni ar y siwrnai 🎡

💒 Yn perfformio ar lwyfan sanctaidd Eglwys y Santes Fair fydd cyfrinach orau Iwerddon Susan O’Neill, y perfformiwr pop-amgen rhyfeddol o’r Eidal Sans Soucis, y delynores deires aruthrol Cerys Hafana ac Adwaith, sydd wedi ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ddwywaith, gyda llawer mwy i’w cyhoeddi. 👀 Bydd eu prif setiau agos-atoch i gyd yn cael eu ffrydio'n fyw trwy sianel YouTube Lleisiau Eraill a'u cyflwyno gan ein ffrind da a'r Cymro enwog Huw Stephens 💕

🪩 Yn ychwanegol i’r Eglwys, mae gennym ni débuts Lleisiau Eraill gwefreiddiol i chi ar hyd y Llwybr Cerdd ynghyd â chyfres gymhellol o drafodaethau yn y Sesiynau Clebran 💫 Mae bandiau arddwrn Pris Cynnar ar werth nawr am £25 yn unig, gan godi i £35 a byddant yn rhoi mynediad anghyfyngedig i chi i’r Llwybr Cerdd, sesiynau Clebran ac yn eich cynnwys mewn raffl am docynnau aur ar gyfer Eglwys y Santes Fair ⛪️

Mae’r don gyntaf o leisiau anhygoel sy’n ymuno â ni yng Nghymru fis Hydref eleni newydd gael eu cyhoeddi!

Yr Eglwys

Mae Sans Soucis yr act pop-amgen o’r Eidal, Susan O’Neill y gantores-gyfansoddwraig o Iwerddon, Adwaith y rocwyr clodfawr o Gymru a Cerys Hafana y delynores deires o Fachynlleth i gyd wedi’u cyhoeddi fel y cyntaf o’r prif actau eleni. Daliwch ati i sgrolio i ddarganfod sut i gael gafael ar docynnau ar gyfer eu perfformiadau.

Ers y tro diwethaf i ni gwrdd â nhw, mae Adwaith y band pedwar aelod ôl-pync o Gymru wedi bod yn brysur yn creu hanes, a bellach nhw yw’r band cyntaf erioed i gipio’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig ddwywaith am eu halbymau ‘Melyn’ a ‘Bato Mato’. Ar ôl perfformio slotiau cefnogi i rai fel Idles a Manic Street Preachers ynghyd â setiau clodwiw yn Glastonbury, byddant yn gwneud eu ffordd adref i Gymru i chwarae yn Eglwys y Santes Fair am y tro cyntaf ym mis Hydref!


Ar ôl blynyddoedd yn mireinio ei hact unigol, mae Susan O’Neill wedi cadarnhau ei hun fel cyfansoddwraig a chanddi ddyfnder a llais bythol, sy’n lleddfol ac yn ffyrnig. Mae ganddi ysbryd eofn, mae’n berfformiwr o fri, a than yn ddiweddar, hi oedd cyfrinach Iwerddon. Newidiodd hynny oll gyda 'In The Game,' ei halbwm ar y cyd â Mick Flannery. Enillodd yr albwm enwebiadau ar gyfer  Gwobr Choice Music a Gwobrau Gwerin RTÉ Radio 1, gan ennill 'Albwm y Flwyddyn' ac 'Artist Gwerin Benywaidd'. Enillodd 'Now You See It' o'i EP unigol, 'Gân Werin Orau' RTE Radio 1 yn 2022. Paratowch ar gyfer perfformiad unigol disglair Susan!

Cyfansoddwraig ac aml-offerynwraig yw Cerys Hafana sy’n manglo, ail-lunio a thrawsnewid cerddoriaeth draddodiadol. Mae hi’n archwilio posibiliadau creadigol a rhinweddau unigryw’r delyn deires, yn ogystal â seiniau hapgael, deunyddiau archifol a phrosesu electronig. Mae hi’n hanu o Fachynlleth, Cymru, lle mae afonydd a ffyrdd yn cwrdd ar y ffordd i’r môr. Fel un o’r perfformwyr oedd uchel ei chlod ar y Llwybr Cerdd y llynedd, mae Cerys yn dychwelyd i Aberteifi lle mae disgwyl brwd am ei set.

Mae Sans Soucis yn gwneud cerddoriaeth sy'n bywiogi'r enaid. Mae cerddoriaeth Sans Soucis yn weithred radical o adennill sy’n deillio o’r awydd i ailgysylltu â llawenydd a didwylledd penrhydd plentyndod a gollwyd gennym i gyd wrth i ni heneiddio. Gan dderbyn canmoliaeth gan The Guardian, Paper Mag, The Independent, Fader, The Forty-Five, Pitchfork a mwy, mae’n cyfuno elfennau o Rymba’r Congo, cyfansoddi caneuon clasurol yr Eidal, R&B electronig a synau pop-amgen. Enillodd hi wobr ‘Grand Jury’ Music Music Moves Europe, ynghyd â chael ei chynnwys yn ymgyrch RADAR fyd-eang Spotify, a chael ei henwi fel yr artist sy’n torri tir newydd ar gyfer 2023 TicketMaster, ymhlith gwobrau ac anrhydeddau eraill.
Cynhelir yr holl brif setiau yn fyw ac ar-lein gyda holl berfformiadau Eglwys y Santes Fair yn cael eu ffrydio i’r byd trwy YouTube Lleisiau Eraill a’u cyflwyno gan y darlledwr enwog o Gymru, Huw Stephens.

Bydd tocynnau aur ar gyfer y perfformiadau agos-atoch hyn ar gael trwy gystadlaethau. Bwciwch eich band arddwrn Llwybr Cerdd nawr i gael eich cynnwys mewn raffl i ennill pâr o docynnau aur i berfformiad yn yr Eglwys.

BWCIWCH NAWR

Y Llwybr Cerdd

Yn ychwanegol i berfformiadau’r Eglwys, byddwn yn cyflwyno cerddoriaeth rhai o’r actau newydd mwyaf disglair o Gymru ac Iwerddon ar y Llwybr Cerdd. Ymunwch â ni am dri diwrnod a thair noson o setiau byw anhygoel yn rhai o leoliadau mwyaf cŵl Aberteifi. O hip-hop i werin, trwy grime, pync a soul, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i'ch hoff fand newydd ar y Llwybr Cerdd cyn unrhyw un arall.

Gyda mwy o artistiaid eto i'w cyhoeddi, bydd y Llwybr Cerdd yn cynnwys:

Clebran – Llanw a Thrai

Mae Clebran, llinyn syniadau Lleisiau Eraill Aberteifi hefyd yn dychwelyd eleni! Bydd rhaglen eleni 'Clebran – Llanw a Thrai' yn archwilio heriau heb eu tebyg ein hoes, ond hefyd y posibiliadau, y cyfleoedd a'r atebion. Bydd y trafodaethau hyn yn ystyried y lleol a’r byd-eang, y cyrion a’r canol, y gymuned a’r gymdeithas ehangach, a sut y gall mudiadau bach greu newid mawr. Fel bob amser, bydd trafodaeth a pherfformiad hefyd ar gyfer y pen a'r galon fel rhan o Clebran.

A hithau’n cael ei chynnal yn y Mwldan yng nghanol Aberteifi, mae rhaglen Clebran eleni yn cynnwys cynulliad o siaradwyr anhygoel; Yr awdur a’r darlledwr Jon Gower, y delynores Cerys Hafana; yr Athro Cysylltiol John Gallagher; yr awdur a'r cyfansoddwr Daf James; yr awdur-gyfarwyddwr Tracy Spottiswoode; yr awdur, y cyfansoddwr a’r perfformiwr Damien Kerlin; y newyddiadurwr a’r awdur Richard Fisher, yr Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Gymhwysol Dr Sharon Lambert a'r hanesydd, awdur a’r adolygydd Dr Christopher Kissane, gyda mwy i'w cyhoeddi. Cynhelir Clebran ar brynhawn/nos Iau, Gwener a Sadwrn yn ystod yr ŵyl dridiau. Mae Clebran yn cael ei guradu ar y cyd gan Leisiau Eraill Aberteifi ac Ireland’s Edge.


BANDIAU ARDDWRN

Mae Bandiau Arddwrn ar werth nawr am £25 yn unig, gan godi i £35 ar 1af Hydref.

BWCIWCH NAWR

Yr hyn a gewch gyda band arddwrn:

  • Mynediad anghyfyngedig i dros 80 o setiau byw ar hyd y Llwybr Cerdd
  • Mynediad anghyfyngedig i holl sesiynau Clebran
  • Cael eich cynnwys mewn raffl am docynnau aur i’r Eglwys 
  • Cael eich cynnwys mewn raffl i ennill nifer o wobrau gwych gan fusnesau lleol 

RHESTR CHWARAE LLEISIAU ERAILL ABERTEIFI 2023 

Ewch ati i wrando ar synau'r lein-yp hyd yma gyda rhestr chwarae swyddogol Lleisiau Eraill Aberteifi

Cadwch lygad allan

Dilynwch @othervoiceslive a @mwldan am y newyddion diweddaraf gyda llawer mwy o syrpreisys ar y ffordd i chi yn ystod yr wythnosau nesaf!

Share!