First names announced for the Other Voices Cardigan 2025 Music Trail!

First names announced for the Other Voices Cardigan 2025 Music Trail!

June 10, 2025

- 30 October – 1 November
- Live & Online from West Wales
- Advance tickets just £40 – on sale now!
- Wristband includes access to the Music Trail, Clebran sessions, and entry to Church performances (first-come, first-served)

Here’s your first taste of who’s coming to the OV Cardigan Music Trail this year…

We are so excited to be returning to West Wales from 3- October - 1 November for another three days of music, conversation and connection in the wonderful town of Cardigan. As always, we'll be bringing you some of the brightest and best acts from Ireland, Wales and beyond to venues across the town via the Music Trail, and here are the first wave of acts confirmed...

Baby Brave / Bruna Garcia / Curtisy / Daithí / Danielle Lewis / David Murphy / Ellie O'Neill / God Knows / Gwen Sion / Joshua Burnside / Kidsmoke / Makeshift Art Bar / Molly Palmer / Morn / Qbanaa / Róis / Salamay / Séamus & Caoimhe Uí Fhlatharta / Siula / Still Blue / Taff Rapids / Talulah / Tessio / The Factory Set / Tokomololo / Tramp / Wrkhouse...and many more to be announced!

This year’s Trail spans more than ten unique venues across town - from pubs and chapels, newly repurposed spaces and many returning favourites.

The full line-up will be announced in the coming weeks, so keep an eye on OV and Mwldan socials! Your wristband grants access to every show along the Trail – grab yours now at the early-bird price of £40 (increasing to £65 from 1 July).

St Mary's Church

This year will once again see some one-of-a-kind performances lighting up St Mary's Church, presented by the ever-wonderful Huw Stephens. These headline performances will be broadcast live worldwide for free via the Other Voices YouTube channel, and streamed to a cinema screen in Mwldan so you can tune in wherever you are.

New for 2025: All wristband holders can attend Church performances on a first-come, first-served basis. Each artist will have a designated slot, with the Church cleared between sets to give as many people as possible a chance to attend. No separate tickets needed – just join the queue for the artists you’d like to see and experience the magic inside St Mary’s.

Clebran & Clebran on The Trail

Beyond the musical happenings, your wristband also includes unlimited access to Clebran. Taking place at Mwldan in the heart of Cardigan, this discursive strand of Other Voices Cardigan brings together artists, advocates, thinkers, and policy makers from Ireland and Wales to explore some of the most important topics of our time, offering fresh perspectives and capturing the imagination.

Clebran will run throughout the three-day festival, with the full line-up announced soon – keep your eyes peeled!

Following last year's successful debut, Clebran on The Trail returns: a series of inspiring conversations with musicians and performers around town, exploring what fuels their creative fire and the passions they hold dear.

Your Music Trail wristband grants unlimited access to all Clebran discussions. Clebran is co-curated by Ireland's Edge.

Advance Wristbands

Advance wristbands are on sale now at just £40, rising to £65 on 1 July.

Your wristband includes:
- Unlimited access to every set on the Music Trail, featuring some of the most exciting new acts from Ireland, Wales, and beyond
- Unlimited access to all Clebran & Clebran on The Trail sessions
- Access to Church performances (first-come, first-served basis)

Get yours now by clicking here!

Other Voices Cardigan is produced by South Wind Blows in partnership with Mwldan and Triongl, with support from the Welsh Government, the Department of Tourism, Culture, Arts, Gaeltacht, Sport and Media, Ceredigion County Council and the UK Shared Prosperity Fund, and BBC Cymru Wales. Other Voices Cardigan will be filmed for future television broadcast on BBC Cymru Wales and RTÉ, and on BBC iPlayer and RTÉ Player.

Get yourself hyped by listening to our #OVC2025 playlist below 🔥

______________________________

Cyhoeddi’r enwau cyntaf ar gyfer Llwybr Cerdd Lleisiau Eraill Aberteifi 2025!

  • 30 Hydref - 1 Tachwedd 
  • Yn fyw ac Ar-lein o Orllewin Cymru 
  • Bandiau arddwrn yn £40 yn unig – ar werth nawr! Mae band arddwrn yn cynnwys mynediad i’r Llwybr Cerdd, sesiynau Clebran, a mynediad i berfformiadau yn yr Eglwys (ar sail y cyntaf i’r felin). 

Dyma’ch blas cyntaf ar bwy sy’n dod i Lwybr Cerdd Lleisiau Eraill Aberteifi eleni…

Rydyn ni mor gyffrous i fod yn dychwelyd i Orllewin Cymru rhwng 3 Hydref - 1 Tachwedd am dridiau arall o gerddoriaeth, sgwrsio a chysylltu yn nhref hyfryd Aberteifi. Fel bob amser, byddwn yn dod â rhai o’r perfformwyr mwyaf disglair a gorau o Iwerddon, Cymru a thu hwnt i leoliadau ar draws y dref i chwarae ar y Llwybr Cerdd, a dyma’r don gyntaf o berfformwyr sydd wedi’u cadarnhau...

Baby Brave / Bruna Garcia / Curtisy / Daithí / Danielle Lewis / David Murphy / Ellie O'Neill / God Knows / Gwen Sion / Joshua Burnside / Kidsmoke / Makeshift Art Bar / Molly Palmer / Morn / Qbanaa / Róis / Salamay / Séamus & Caoimhe Uí Fhlatharta / Siula / Still Blue / Taff Rapids / Talulah / Tessio / The Factory Set / Tokomololo / Tramp / Wrkhouse... a nifer mwy i’w cyhoeddi! 

Mae’r Llwybr eleni yn cwmpasu mwy na deg lleoliad unigryw ar draws y dref - o dafarndai a chapeli, mannau sydd wedi'u hailbwrpasu’n ddiweddar a llawer o hen ffefrynnau.

Cyhoeddir y lein-yp llawn yn ystod yr wythnosau nesaf, felly cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol Lleisiau Eraill a’r Mwldan! Mae eich band arddwrn yn rhoi mynediad i bob sioe ar hyd y Llwybr - bachwch eich band chi nawr am bris cynnar o £40 (yn codi i £65 o 1 Gorffennaf).

Eglwys y Santes Fair

Eleni unwaith eto, bydd rhai perfformiadau unigryw yn goleuo Eglwys y Santes Fair, gyda’r anhygoel Huw Stephens wrth y llyw. Bydd y prif berfformiadau hyn yn cael eu darlledu’n fyw ledled y byd am ddim trwy sianel YouTube Other Voices, a’u ffrydio i sgrin sinema yn y Mwldan fel y gallwch chi wylio lle bynnag yr ydych chi.
Newydd ar gyfer 2025: Gall yr holl ddeiliad band arddwrn fynychu perfformiadau'r Eglwys ar sail y cyntaf i'r felin. Bydd gan bob artist slot penodol, gyda'r Eglwys yn cael ei chlirio rhwng setiau er mwyn rhoi cyfle i gynifer o bobl â phosibl fynychu. Does dim angen tocynnau ar wahân - ymunwch â'r ciw ar gyfer yr artistiaid yr hoffech eu gweld a phrofi'r hud y tu mewn i Eglwys y Santes Fair.

Clebran a Clebran ar Hyd y Llwybr

Y tu hwnt i'r digwyddiadau cerddorol, mae eich band arddwrn hefyd yn cynnwys mynediad heb gyfyngiad i Clebran. Yn digwydd yn y Mwldan yng nghanol Aberteifi, mae elfen drafod Lleisiau Eraill Aberteifi yn dod ag artistiaid, eiriolwyr, meddylwyr a llunwyr polisi o Iwerddon a Chymru ynghyd i archwilio rhai o bynciau pwysicaf ein hoes, gan gynnig safbwyntiau ffres a chipio’r dychymyg.

Bydd Clebran yn rhedeg drwy gydol yr ŵyl, gyda'r lein-yp llawn yn cael ei gyhoeddi cyn hir - cadwch lygad allan!
Yn dilyn ei  lwyddiant début y llynedd, mae Clebran ar Hyd y Llwybr yn dychwelyd: cyfres o sgyrsiau ysbrydoledig gyda cherddorion a pherfformwyr ar gwmpas y dref, yn archwilio beth sy'n tanio eu tân creadigol a'r hyn sy’n annwyl iddynt. 

Mae eich band arddwrn Llwybr Cerdd yn rhoi mynediad heb gyfyngiad i holl drafodaethau Clebran. Mae Clebran wedi'i guradu ar y cyd ag Ireland's Edge.

Bandiau Arddwrn Cynnar

Mae bandiau arddwrn cynnar nawr ar werth am £40 yn unig, gan godi i £65 ar 1 Gorffennaf.


Mae eich band arddwrn yn cynnwys:

- Mynediad heb gyfyngiad i bob set ar y Llwybr Cerddoriaeth, yn cynnwys rhai o'r actau newydd mwyaf cyffrous o Iwerddon, Cymru, a thu hwnt

- Mynediad heb gyfyngiad i bob sesiwn Clebran a Clebran ar Hyd y Llwybr

- Mynediad i berfformiadau yn yr Eglwys (ar sail y cyntaf i'r felin)

Cynhyrchir Lleisiau Eraill Aberteifi gan South Wind Blows mewn partneriaeth â’r Mwldan a Triongl, gyda chefnogaeth a buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Twristiaeth, Diwylliant, Celfyddydau, y Gaeltacht, Chwaraeon a Chyfryngau, Cyngor Sir Ceredigion a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU a BBC Cymru. Caiff Lleisiau Eraill Aberteifi ei ffilmio ar gyfer darllediad teledu sydd ar ddod ar BBC Cymrus ac RTÉ, ac ar BBC iPlayer ac RTÉ Player.

Share!