OTHER VOICES CARDIGAN 2021 | LEISIAU ERAILL ABERTEIFI 2021

OTHER VOICES CARDIGAN 2021 | LEISIAU ERAILL ABERTEIFI 2021

February 10, 2021

We are delighted to announce that our first adventure of the year Other Voices Cardigan 2021 takes place this March in beautiful Wales as part of Gŵyl 2021!

We have once again teamed up with our friends at Mwldan and Triongl to bring you an unforgettable weekend of music which embraces the diversity + dialogue of these two celtic places.

Join us on 6 + 7 March for a digital festival full of inspired performances hosted by Huw Stephens and recorded at the stunning National Museum Wales, Cardiff.

The musicians joining us include electronic pop artist Ani Glass, accomplished Irish violinist Aoife Ní Bhriain, Welsh harpist Catrin Finch, Cardiff based rising star Juice Menace, post-punk poet Sinead O'Brien, multi-instrumentalist The Gentle Good and Trinidad-born rapper, producer, and songwriter BERWYN.

Gŵyl 2021 is brought to you in partnership by Other Voices Cardigan, Festival of Voice, Aberystwyth Comedy Festival and Focus Wales.

JUICE MENACE ANI GLASS AOIFE NÍ BHRIAIN BERWYN CATRIN FINCH SINEAD O'BRIEN THE GENTLE GOOD

OV Cardigan 21 Line up

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod ein hantur gyntaf o’r flwyddyn, sef Lleisiau Eraill Aberteifi 2021, yn cael ei chynnal ym mis Mawrth yng Nghymru brydferth fel rhan o Gŵyl 2021!

Unwaith eto, rydym wedi ymuno â'n ffrindiau yn y Mwldan a Triongl i ddod â phenwythnos bythgofiadwy o gerddoriaeth i chi sy'n dathlu amrywiaeth a deialog y ddau le Celtaidd.

Ymunwch â ni ar 6 a 7 Mawrth ar gyfer gŵyl ddigidol yn llawn perfformiadau ysbrydoledig wedi’u recordio yn y syfrdanol Amgueddfa Cymru, Caerdydd gyda Huw Stephens wrth y llyw yn arwain.

Ymhlith y cerddorion sy'n ymuno â ni mae'r artist pop electronig Ani Glass, y feiolinydd Gwyddelig medrus Aoife Ní Bhriain, y delynores Gymreig Catrin Finch, y seren newydd o Gaerdydd, Juice Menace, y bardd ôl-pync Sinead O'Brien, yr aml-offerynnwr The Gentle Good a BERWYN y rapiwr, cynhyrchydd, a chyfansoddwr caneuon a anwyd yn Trinidad.

Cyflwynir #gŵyl2021 i chi mewn partneriaeth gan Lleisiau Eraill Aberteifi, Festival of Voice, Aberystwyth Comedy Festival + Focus Wales.

6 - 7 MARCH | STREAMING DETAILS

WORLDWIDE

You can stream the performances on Other Voices' Facebook, Twitter + YouTube worldwide each night at 8pm, excluding the UK where you can catch all the action from 3pm over at bbc.co.uk/gwyl2021

Here's the links you need to enjoy the show outside of the UK

Saturday

OV Facebook: http://bit.ly/2O9PRnB

OV Twitter: https://bit.ly/3bjQbc0

OV YouTube: https://bit.ly/30isJFU

Sunday

OV Facebook: http://bit.ly/3kShopj

OV Twitter: https://bit.ly/3emxzdg

OV YouTube: https://bit.ly/3uZZKET

UK ONLY

If you’re in the UK you can watch all the Other Voices Cardigan performances as part of #Gwyl2021. Their performances kick off each day from 3pm so please check their schedule for full details below.

Here’s the link for streaming + more details for the UK: bbc.co.uk/gwyl2021

*You’ll be able to catch up and rewatch performances on both platforms for 30 days*

TELEVISION BROADCAST

Other Voices Cardigan will also broadcast on S4C on 8th April and on RTÉ 2 and the RTÉ Player on 29th April.

6 - 7 MAWRTH | MANYLION FFRYDIO

Streaming

YN FYD-EANG

Gallwch ffrydio'r perfformiadau ar Facebook, Twitter ac YouTube Other Voices ledled y byd bob nos am 8pm, ac eithrio'r DU lle gallwch chi wylio’r holl gyffro o 3pm ar https://bbc.in/3b44VM5

Dyma'r dolenni sydd eu hangen arnoch i fwynhau'r sioe y tu allan i'r DU

- OV Facebook: http://bit.ly/2NH1m5T
- OV Twitter: https://bit.ly/3bTfCk1
- OV YouTube: http://bit.ly/3kyzSep

*Y Deyrnas Unedig yn unig*

Os ydych chi yn y DU gallwch wylio holl berfformiadau Lleisiau Eraill Aberteifi fel rhan o #Gŵyl2021. Mae eu perfformiadau'n cychwyn bob dydd am 3pm felly cyfeiriwch at eich amserlen am fanylion llawn Dyma'r ddolen ar gyfer ffrydio a mwy o fanylion yn y DU: http://bbc.in/3dX6M7r

* Byddwch yn gallu dal i fyny a gwylio perfformiadau eto ar y ddau lwyfan am 30 diwrnod *

SPOTIFY

Other Voices Cardigan 2021

OTHER VOICES CARDIGAN 2019 | LLEISIAU ERAILL ABERTEIFI 2019

Other Voices Cardigan | Lleisiau Eraill Aberteifi

Take a look back at highlights from our last trip to beautiful Wales for Other Voices Cardigan 2019 which included performances from Lankum, Celeste, Gruff Rhys, Lucy Rose + More!

____

Cymerwch gipolwg yn ôl ar uchafbwyntiau ein taith ddiwethaf i Gymru hardd ar gyfer Lleisiau Eraill Aberteifi 2019 a oedd yn cynnwys perfformiadau gan Lankum, Celeste, Gruff Rhys, Lucy Rose a Mwy!

ABOUT #OVC21

Other Voices Cardigan is part of the two day Gŵyl 2021 which is presented in partnership by Focus Wales, Little Wander, Triongl, South Wind Blows, Mwldan, Wales Millennium Centre + BBC Cymru Wales.

Quote from Philip King, Founder, Other Voices:

“It’s a great delight for all of us at Other Voices to be returning to Wales to deepen and strengthen our relationship with Mwldan and working in partnership with 3 of the most significant festivals in Wales to create and curate compelling uplifting inspirational and entertaining content and to transmit that content from the singing city of Cardiff to the world. Gŵyl 2021 is about working together, playing and singing together with our nearest neighbours and in doing so help ameliorate the anxieties and tensions we have all experienced over the last year."

Dyfyniad gan Philip King, Other Voices:

“Mae'n hyfryd o beth i bob un ohonom yn Other Voices i ddychwelyd i Gymru i ddyfnhau a chryfhau ein perthynas â’r Mwldan a gweithio mewn partneriaeth â thair o'r gwyliau mwyaf arwyddocaol yng Nghymru i greu a churadu cynnwys ysbrydoledig, difyr ac i drawsyrru'r cynnwys hwnnw o ddinas gerddorol Caerdydd i'r byd. Mae Gŵyl 2021 yn ymwneud â chydweithio, chwarae a chanu gyda'n cymdogion agosaf ac wrth wneud hynny helpu i leddfu'r pryderon a'r tensiynau yr ydym i gyd wedi'u profi dros y flwyddyn ddiwethaf " Philip King, Founder, Other Voices

Quote from Graeme Farrow, Artistic Director of Wales Millennium Centre:
“Festival of Voice has been the highlight of our calendar since 2016, and last year’s festival was shaping up to be no exception. The exciting and ambitious plans we’d made were dashed by the pandemic, but we’re all delighted to be able to work with such outstanding partners to deliver Gŵyl 2021 in March. It brings together the very best of all four festivals, and our shared spirit of curiosity and passion for great performance. We hope it brings a bit of much-needed joy to audiences to blow away the cobwebs.”

Dyfyniad gan Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru:
“Mae Gŵyl y Llais wedi bod yn uchafbwynt ein calendr ers 2016, ac roedd yr ŵyl y llynedd yn edrych fel petai yn mynd i fod yr un mor rhyfeddol. Chwalwyd ein cynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol gan y pandemig, ond rydym i gyd yn falch iawn o allu gweithio gyda phartneriaid mor rhagorol i gyflwyno Gŵyl 2021 ym mis Mawrth. Mae'n dwyn ynghyd y goreuon o bob un o'r pedair gŵyl, ein hysbryd o chwilfrydedd a’n brwdfrydedd rhanedig am berfformiad gwych. Gobeithiwn y bydd yn dod â chryn lawenydd i gynulleidfaoedd ac yn adnewyddu eu hysbryd.”

Quote from Henry Widdicombe, Aberystwyth Comedy Festival:

"We couldn't be more delighted to be working with three other amazing Welsh festivals to deliver this online event in March. Whilst the past year has been an unprecedented challenge for the events industry, an event like this shows that the arts community has also come together as a result of that challenge. The programme of events being curated is astonishing and we can't wait to be a part of it."

Dyfyniad gan Henry Widdicombe, Gŵyl Gomedi Aberystwyth:
"Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda thair gŵyl ryfeddol arall yng Nghymru i gyflwyno'r digwyddiad ar-lein hwn ym mis Mawrth. Er bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn her heb ei thebyg i'r diwydiant digwyddiadau, mae digwyddiad fel hwn yn dangos bod cymuned y celfyddydau hefyd wedi dod ynghyd o ganlyniad i'r her honno. Mae'r rhaglen o ddigwyddiadau sy'n cael eu curadu yn rhyfeddol ac ni allwn aros i fod yn rhan ohoni."

Quote from Neal Thompson, FOCUS Wales:

"We are delighted that FOCUS Wales has been able to work in partnership with three of Wales' best known festivals to create Gŵyl 2021. After what has been a dark and difficult year for us all, we look forward to a brighter future and to coming together and celebrating Wales' rich and diverse cultural offering, with a programme of outstanding music and comedy."

Dyfyniad gan Neal Thompson, FOCUS Cymru:
"Rydym yn falch iawn bod FOCUS Cymru wedi gallu gweithio mewn partneriaeth â thair o wyliau mwyaf adnabyddus Cymru i greu Gŵyl 2021. Ar ôl yr hyn a fu'n flwyddyn dywyll ac anodd i ni i gyd, rydym yn edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair ac at ddod at ein gilydd a dathlu gwledd o ddiwylliant cyfoethog ac amrywiol Cymru, gyda rhaglen o gerddoriaeth a chomedi rhagorol."

Quote from Dilwyn Davies, Other Voices Cardigan:

“Other Voices and Mwldan are super excited at the prospect of an extraordinary weekend of music and comedy from Wales, created and shared by our wonderful festival partners. During a time of separation, distance and lockdown, it's all the more important that we - artists, audiences and crew - join together to share and celebrate the riches of our diverse culture.”

Dyfyniad gan Dilwyn Davies, Lleisiau Eraill Aberteifi:
“Mae Lleisiau Eraill a’r Mwldan yn hynod gyffrous ac yn edrych ymlaen at benwythnos anhygoel o gerddoriaeth a chomedi o Gymru, wedi’i greu a’i rannu gan ein partneriaid gwych yn yr ŵyl. Yn ystod cyfnod o fod ar wahân, pellter a chlo, mae'n bwysicach fyth ein bod ni - artistiaid, cynulleidfaoedd a chriw - yn ymuno i rannu a dathlu cyfoeth ein diwylliant amrywiol.”

Quote from Rhodri Talfan Davies, director of BBC Cymru Wales:

“BBC Wales is delighted to be working with Gŵyl 2021. We all need a blast of creativity, comedy and music right now and this unprecedented partnership with four brilliant Welsh festivals promises to be a real gem.”

Dyfyniad gan Rhodri Talfan Davies, cyfarwyddwr BBC Cymru Wales:
“Mae BBC Cymru yn falch iawn o weithio gyda Gŵyl 2021. Mae angen ffrwydrad o greadigrwydd, comedi a cherddoriaeth arnom i gyd ar hyn o bryd ac mae’r bartneriaeth heb ei thebyg hon gyda phedair gŵyl Gymreig wych yn sicr i fod yn berl go iawn”

____

Gŵyl 2021 is made possible with funding support from BBC Cymru Wales, S4C, the Department of Tourism, Culture, Arts, Gaeltacht, Sport and Media, National Museum Cardiff, Arts Council of Wales, Lottery Funded, Welsh Government.

Mae Gŵyl 2021 yn bosibl gyda chefnogaeth ariannol gan BBC Cymru Wales, S4C, yr Adran Twristiaeth, Chwaraeon, Diwylliant, y Celfyddydau, y Gaeltacht, Chwaraeon a'r Cyfryngau, Amgueddfa Cymru Caerdydd, Cyngor Celfyddydau Cymru, Arian y Loteri, Llywodraeth Cymru.

PROUCING PARTNERS / ARTNERIAID CYNHYRCHU

Producing partners

FUNDING PARTNERS / PARTNERIAD CYLLIDO

Funding partners

Share!