First speakers announced for this year's Clebran sessions at Other Voices Cardigan

First speakers announced for this year's Clebran sessions at Other Voices Cardigan

July 15, 2024

Noel Mooney, CEO of the Football Association of Wales, The Dingle Druid, Julí Ní Mhaoileóin, Edwina Guckian, Dancer, Farmer and Community Activist, Tumi Williams, Multidisciplinary Creative, Dr. Billy Mag Fhloinn, Folklorist, Archaeologist, Lecturer and many more announced as speakers for this year’s Clebran programme

Three days of ideas, stories, discussion and performance at Other Voices Cardigan

31 Oct – 2 Nov 2024 | Cardigan, West Wales

Wristbands on sale now

Scroll for Welsh

Other Voices Cardigan & Ireland's Edge are delighted to share the very first look at some of the illuminating voices who will be joining us in West Wales this autumn for Clebran - At the Crossroads, Where Spirits Gather.

From 31 October to 2 November, the Clebran sessions provide a space where ideas and stories meet discussion and performance at the Other Voices Cardigan Festival.

At the crossroads, where spirits gather

Across the three day programme there will be discussion and performance from an exciting array of voices including musicians and artists, druids and folklorists, politicians and professors, authors, journalists, football professionals, dancers and farmers join us to navigate conversations through community, collectivism, traditions and ritual, with more to be announced.

Curated in partnership with the multidisciplinary ideas series Ireland’s Edge, Clebran grows from the friendship between the two small coastal towns of Dingle - the hometown of Other Voices - and Cardigan, places that share a deep appreciation for culture and community, and show how things look different from the edge.

The Programme

The festival opens on the 31 October with a meeting of druids. The Dingle Druid (Julí Ní Mhaoileóin) will join forces with Welsh druid Carys Eleri to perform a ceremony that marks the coming together of our sister nations and marking Nos Calan Gaef/Samhain this Halloween eve.

The ceremony, taking place in the main auditorium at Mwldan, will be accompanied by a discussion – ‘The New Pagans’ - between the two druids and Folklorist, Archaeologist and Lecturer Dr. Billy Mag Fhloinn to set the scene for the event.

On Friday, 1 November, CEO of the Football Association of Wales Noel Mooney will join former international footballer, UEFA Vice President/ Executive Committee Member, and Professor of Public Policy Laura McAllister, and Writer/Presenter Darren Chetty to talk about the activism and community collectivism of football, beyond the boundaries of the pitch in 'You’ll Never Walk Alone.'

Delyth Jewell MS, Professor Diarmait Mac Giolla Chriost, and theatre academicMs. Marianne Kennedy join historian and writer Dr. Christopher Kissane to explore the rekindling of ancient bonds across the Irish Sea in the face of a post-Brexit world for the panel ‘Stronger Together’… what can we hope for from this evolving landscape?

The final day of the festival will see Lecturer Dr. Lowri Cunnington Wynn, Creative Director at Blueprint James Dovey, and dancer and farmer Edwina Guckian discuss the radical act of staying put with Christopher Kissane in ‘The Grass Isn’t Always Greener’. There will also be a dance performance from Edwina Guckian as part of this panel.

Also on Saturday, 2 November, ‘Common Ground’ brings together voices from either side of the Irish Sea to discuss the rich history of farming and food in both contexts. Journalist and organic farmer Hannah Quinn-Mulligan talks to author and gardener Carwyn Graves under the kind shepherding of food history writer Dr. Christopher Kissane.

Later that day, ‘Now Playing’ brings Multidisciplinary Creative, Tumi Williams (Skunkadelic/Afrocluster/Starving Artists) and Musician and Multidisciplinary ArtistMax Zanga(Filmore!/Tebi Rex) together to discuss the inspiring work they do, on and off stage, to promote black music in Wales and Ireland respectively.

Clebran on the Trail - New for 2024

And brand new for 2024 we have Clebran on the Trail – intimate conversations with musicians taking place in Music Trail venues around the town. The full Clebran schedule as well as more exciting speakers will be announced in the coming weeks.

Clebran Tickets

An Other Voices Cardigan weekend wristband includes unlimited access to all Clebran and Clebran on the Trail discussions and performances as well as unlimited access to over 80 live sets along the Music Trail. BOOK NOW

_____

Mae Lleisiau Eraill Mae Aberteifi ac Ireland's Edge yn falch iawn o rannu'r cipolwg gyntaf un ar rai o'r lleisiau dadlennol a fydd yn ymuno â ni yng Ngorllewin Cymru yr hydref hwn ar gyfer Clebran – Ar y Groesffordd, Lle Mae Ysbrydion yn Cwrdd.

Mae’r sesiynau Clebran, a gynhelir rhwng 31 Hydref a 2 Tachwedd, yn darparu gofod lle bydd syniadau a straeon yn cwrdd â thrafodaeth a pherfformiad yng Ngŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi.

Ar y Groesffordd, Lle Mae Ysbrydion yn Cwrdd

Ar hyd y rhaglen dridiau, bydd trafodaeth a pherfformiad gan amrywiaeth gyffrous o leisiau gan gynnwys cerddorion ac artistiaid, derwyddon a llên-gwerinwyr, gwleidyddion ac athrawon, awduron, newyddiadurwyr, gweithwyr proffesiynol ym maes pêl-droed, dawnswyr a ffermwyr. Ymunwch â ni i lywio sgyrsiau ynghylch cymuned, cyd-dynnu, traddodiadau a defodau, gyda mwy i gyhoeddi.

Wedi'i guradu mewn partneriaeth ag Ireland's Edge, y gyfres syniadau amlddisgyblaethol, mae Clebran yn tyfu o'r cyfeillgarwch rhwng y ddwy dref arfordirol fechan, Dingle - tref enedigol Other Voices - ac Aberteifi, lleoedd sy'n rhannu gwerthfawrogiad dwfn o ddiwylliant a chymuned ac yn dangos sut mae pethau'n edrych yn wahanol o’r ymyl.

Rhaglen 2024

Mae’r ŵyl yn agor ar 31 Hydref gyda chynulliad derwyddon. Ar y noson Galan Gaeaf hon, bydd Derwydd Dingle (Julí Ní Mhaoileóin) yn ymuno â’r derwydd o Gymru Carys Eleri i berfformio defod sy’n dathlu uno ein chwaer genhedloedd ac yn nodi Nos Galan Gaeaf/Samhain.

I gyd-fynd â’r ddefod, a gynhelir ym mhrif awditoriwm y Mwldan, ceir trafodaeth - ‘Y Paganiaid Newydd’ - rhwng y ddau dderwydd a’r Llên-gwerinwr, yr Archaeolegydd a’r Darlithydd Dr Billy Mag Fhloinn er mwyn paratoi’r ffordd ar gyfer y digwyddiad.

Ddydd Gwener, 1 Tachwedd, bydd Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru Noel Mooney yn ymuno â’r cyn bêl-droediwr rhyngwladol, Is-lywydd / Aelod Pwyllgor Gwaith UFEA a’r Athro Polisi Cyhoeddus Laura McAllister a’r ysgrifennwr/cyflwynydd Darren Chetty i siarad am ymgyrchu a chyd-dynnu cymunedol ym maes pêl-droed, y tu hwnt i ffiniau’r cae yn “You’ll Never Walk Alone”.

Mae Delyth Jewell AS, yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost a’r academydd theatr Marianne Kennedy yn ymuno â’r hanesydd a’r ysgrifennwr Christopher Kissane i archwilio ail-feithrin cysylltiadau hynafol ar draws Môr Iwerddon yn wyneb byd ôl-Brexit yn y panel ‘Mewn Undod Mae Nerth’… am beth allwn obeithio o'r dirwedd ddatblygol hon?

Ar ddiwrnod olaf yr ŵyl, bydd y darlithydd Dr Lowri Cunnington Wynn, cyfarwyddwr creadigol Blueprint James Dovey a’r dawnsiwr, ffermwr, a’r ymgyrchydd cymunedol Edwina Guckian yn trafod y weithred radical o aros yn yr unfan gyda Dr Christopher Kissane yn ‘Man Gwyn Man Draw?’. Ceir hefyd perfformiad dawns gan Edwina Guckian fel rhan o’r panel hwn.

Hefyd ar ddydd Sadwrn, 2 Tachwedd, mae ‘Tir Cyffredin’ yn dod â lleisiau o naill ochr Môr Iwerddon at ei gilydd i drafod hanes cyfoethog ffermio a bwyd yn y ddau gyd-destun. Mae’r newyddiadurwr a’r ffermwr organig Hannah Quinn-Mulligan yn siarad â’r awdur a’r garddwr Carwyn Graves o dan fugeiliaeth hynaws yr ysgrifennwr hanes bwyd Dr Christopher Kissane.

Yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw, mae ‘Nawr yn Chwarae’ yn dod â’r Gweithiwr Creadigol Amlddisgyblaethol Tumi Williams (Skunkadelic/Afrocluster/Starving Artists) a’r Cerddor a’r Artist Amlddisgyblaethol Max Zanga (Filmore/Tebi Rex) at ei gilydd i drafod y gwaith ysbrydoledig y maen nhw’n ei wneud, ar y llwyfan ac oddi arno, i hyrwyddo cerddoriaeth ddu yng Nghymru ac Iwerddon yn y drefn honno.

Clebran ar hyd y Llwybr – Newydd ar gyfer 2024! Yn newydd ar gyfer 2024, mae gennym Clebran ar hyd y Llwybr – sgyrsiau agos atoch â cherddorion a gynhelir mewn lleoliadau Llwybr Cerdd o gwmpas y dref. Mae’r lein-yp i'w gyhoeddi. Tocynnau Clebran Mae band arddwrn Lleisiau Eraill yn rhoi mynediad i chi i holl drafodaethau Clebran a Clebran ar hyd y Llwybr (ar sail y cyntaf i’r felin). Gweler www.othervoices.ie am ragor o fanylion. ARCHEBWCH NAWR

___

Other Voices Cardigan is staged with the support and investment of Welsh Government and The Department of Tourism, Culture, Arts, Gaeltacht, Sport and Media, The Department of Foreign Affairs’ Reconciliation Fund and is produced by South Wind Blows in partnership with Mwldan and Triongl. This project is part-funded by the UK Government through the UK Shared Prosperity Fund, Levelling Up supported by Ceredigion County Council.

Llwyfannir Lleisiau Eraill Aberteifi gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a’r Adran Twristiaeth, Diwylliant, Celfyddydau, Gaeltacht, Chwaraeon a Chyfryngau, Cronfa Gymodi'r Adran Materion Tramor a chaiff ei chynhyrchu gan South Wind Blows mewn partneriaeth â’r Mwldan a Triongl. Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Ffyniant Bro a gefnogir gan Gyngor Sir Ceredigion.

Share!