Pastiche

Named one of Hot Press' HotFor2022 acts - Pastiche burst onto the Irish scene, bringing with her a fresh delivery of pop music, with her infectious and unapologetically herself pop sound. Brazen, fiery and memorable, this is a pop artist to sit up and take notice of. Pastiche has been claimed as ‘Ireland’s fastest rising pop star’, impressing with her big pop bangers and iconic live performances. Each single release from her debut EP has seen millions of radio impacts, thousands of radio plays as well as landing key Spotify editorial playlists. A fierce pop act, making big waves - selling out her debut headline show in 72 hours causing media to rave about her with Irish Examiner naming her as an ""Irish act to watch out for in 2022"" and the Irish Times quoting ""Irish music acts to listen to in 2022"" - this year is set to be the year of Pastiche. Ireland’s answer to Dua Lipa meets Lady Gaga, Pastiche’s sound combines classic electronic pop, dark pop and a rebellious club kid sound mixed with her theatrical influences. Pastiche demands your attention with her lyrically and sonically unique tracks distinct to her recognisable pop sound full of sass, female empowerment energy and badass bass.

Cafodd Pastiche ei henwi’n un o actau HotFor2022 gan Hot Press. Fe ffrwydrodd i’r sîn Wyddelig, gan ddod â chyflenwad ffres o gerddoriaeth bop gyda hi, diolch i’w sain pop heintus a di-flewyn-ar-dafod unigryw. Mae’n eofn, yn danbaid ac yn gofiadwy, dyma artist pop i gymryd cryn sylw ohoni. Dywed mai Pastiche yw ‘seren bop mwyaf addawol Iwerddon’, wrth iddi greu argraff gyda’i chaneuon pop mawr a’i pherfformiadau byw eiconig. Mae pob record sengl a ryddhawyd o'i EP cyntaf wedi arwain at filiynau o gyfleoedd gwrando ar y radio, maen nhw wedi cael eu chwarae miloedd o weithiau ar y radio yn ogystal â chyrraedd rhestri chwarae golygyddol allweddol Spotify. Mae’n act bop danbaid, sy’n creu cynnwrf mawr. Fe werthodd pob tocyn ar gyfer ei phrif sioe gyntaf mewn 72 awr a chafodd ei chlodfori gan y cyfryngau, gyda’r Irish Examiner yn ei henwi fel "act Wyddelig i gadw llygad arni yn 2022" a'r Irish Times yn ei chynnwys ymhlith "Actau cerddorol o Iwerddon i wrando arnynt yn 2022" - mae eleni yn flwyddyn fawr i Pastiche. Hi yw ateb Iwerddon i Dua Lipa yn cwrdd â Lady Gaga. Mae sain Pastiche yn cyfuno pop electronig clasurol, pop tywyll a sain club kid gwrthryfelgar ac yn cymysgu’r cyfan gyda’i dylanwadau theatrig. Mae Pastiche yn mynnu eich sylw gyda'i thraciau telynegol a sonig unigryw sy’n nodweddiadol o’i' sain pop adnabyddadwy sy'n llawn ehofndra, egni grym benywaidd a bas digyfaddawd.

No items found.