Eve Goodman
Her music is rooted in her sense of place. Carried by a clear voice, Eve weaves in the natural world and the beauty surrounding her. Her lyrics reveal a deep connection to what it is to be human in these troubled, inspiring times. From swimming in lakes and finding her voice, to letting her fears and tears be held by the ocean, her songs are bound by themes of collective human experiences, and our relationship to the wildness within us.Eve has released three EPs to date and is currently recording her debut album. With a captivating and unflinching honesty, the album is a deeply personal meditation on loss. Eve shines her light on bottomless grief and unanswered questions; despite it all, these raw yet beautiful songs take us on a journey towards finding joy again.From house gigs and festival campfires, to stages at The Dubai World Expo, The Houses of Parliament and Celtic Connections festival, Eve’s captivating musical presence is a gift she carries with her wherever she goes.
"Eve Goodman possesses a rare magic" From The Margins
Cantores-gyfansoddwraig o Ogledd Cymru yw Eve Goodman, sy’n ysgrifennu ac yn perfformio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae ei cherddoriaeth wedi’i gwreiddio yn ei hymdeimlad o le. Mae Eve yn plethu’r byd naturiol a’r harddwch o’i chwmpas i mewn ac yn eu cyfleu gyda llais clir. Mae geiriau ei cherddoriaeth yn datgelu cysylltiad dwfn â'r hyn yw bod yn ddynol yn y cyfnod cythryblus, ysbrydoledig hwn.
O nofio mewn llynnoedd a dod o hyd i’w llais, i adael i’r cefnfor feddiannu ei hofnau a’i dagrau, yr hyn sy’n rhwymo ei chaneuon yw themâu profiadau dynol cyfunol, a’n perthynas â’r natur benrhydd o’n mewn.
Mae Eve wedi rhyddhau tair EP hyd yma ac ar hyn o bryd mae’n recordio ei halbwm cyntaf. Mae’r albwm yn fyfyrdod hynod bersonol ar golled, gyda gonestrwydd cyfareddol a digyfaddawd. Mae Efa’n disgleirio ei goleuni ar alar di-ben-draw a chwestiynau sydd heb eu hateb; er gwaethaf y cyfan, mae’r caneuon hyn sy’n amrwd ond yn brydferth yn ein tywys ar daith tuag at ganfod llawenydd eto.
O gigs cartrefol a thanau gwersyll mewn gwyliau, i lwyfannau’r Dubai World Expo, y Senedd a gŵyl Celtic Connections, mae presenoldeb cerddorol cyfareddol Eve yn anrheg y mae hi’n ei chario gyda hi ble bynnag y mae’n mynd.
"Mae gan Eve Goodman hud prin""From The Margins