Welsh Music Prize 2023 sees Other Voices Cardigan favourites make the shortlist 

Welsh Music Prize 2023 sees Other Voices Cardigan favourites make the shortlist 

October 10, 2023

Ahead of this year's Welsh Music Prize ceremony, we're taking a look back at some of the previous nominees (and winners!) who've joined us at Other Voices Cardigan over the years - and there's been a few!

With Cardigan right around the corner, we’re shining a spotlight on this year’s Welsh Music Prize nominees, many of whom have a rich history with Other Voices! Radio broadcaster and all-round national treasure, Huw Stephens, initially started the Welsh Music Prize back in 2011 alongside music promoter John Rostron - four years before he officially joined the OV team. Since then, the initiative has gone from strength to strength, succeeding in championing the many talented Welsh voices in the entertainment industry. 

Each year supported by Creative Wales, the annual award celebrates the best music made in Wales or by Welsh people around the world. 

This year’s shortlist includes debut albums from CVC, Dafydd Owain, Hyll, Minas, Overmono and 2019 Music Trail artists YNYS, plus albums by established acts Cerys Hafana, H Hawkline, Ivan Moult, John Cale, Mace the Great, Rogue Jones, Sister Wives, Stella Donnelly and Sŵnami. 

The overall winner will be announced at the Wales Millennium Centre on 10 Oct as part of Cardiff’s Llias cultural festival. Shortly afterwards, from October 26-28, Other Voices Cardigan will return to West Wales for its fourth edition of songs for the heart and the head.

Incredible rising stars and lauded Welsh Music Prize winners have graced the St Mary’s Church stage and Other Voices Cardigan Music Trail over the years, with two time winners Adwaith set to take to the OV Cardigan stage this October. The Welsh language indie rockers from Carmarthen released their debut album Melyn back in 2018. The group won the Welsh Music Prize for the acclaimed body of work, later scoring the prize an unprecedented second time for 2022’s hair-raising follow up Bato Mato - released on Libertino Records. 

Other Voices Cardigan 2023 will also see Mace The Great and Minas perform on the Music Trail at this year’s event on October 26-28. Both artists have made the 2023 Welsh Music Prize shortlist for their magnetic projects SplottWorld and All My Love Has Failed Me. 

Cardiff producer James Minas crafted the latter album alongside drummer Greg Davies and bassist Bob Williams. The title track explores the feeling of powerlessness and corruption in Britain. The intense video, helmed by Ren Faulks, emphasises James Minas’ fury and splices in shots of fellow creatives in the Cardiff music scene. Meanwhile, Mace The Great has built up a reputation as a grime and hip-hop sensation in the Welsh capital and beyond. Having won a Triskel Award at the Welsh Music Prize 2020, he released his critically acclaimed EP 'My Side Of The Bridge' in March 2021 via the MTGM label. 

Opening up the archives, 2019’s Other Voices Cardigan debut featured the first ever winner of the Welsh Music Prize, Gruff Rhys, who scooped the gong for Hotel Shampoo in 2011. The third solo LP from the Super Furry Animals singer included collaborative work with Miles Kane. That same year also saw Boy Azooga perform in St Mary’s Church, the indie-rockers led by Davey Newington who won the Welsh Music Prize in 2018 for 1, 2, Kung Fu.

Welsh Music Prize nominees Al Lewis, VRï, Gwilyn Bowen Rhys (Plu), HMS Morris, Accü, Gwenifer Raymond, Bryde, Dead Method, Sywel Nyw, Cynefin and more have also performed on The Music Trail, while singer-songwriter Carwyn Ellis (Rio 18) and L E M F R E C K played a jaw dropping Church set in 2022.

The wonderful The Gentle Good (Gareth Bonello) played a very special headline set as part of Other Voices Cardigan 2021. Having been first nominated for the Welsh Music Prize in 2011 for Tethered for the Storm, the Cardiff multi-instrumentalist later won the award in 2017 for Ruins/Adfeilion. 

In 2022, Welsh electro-pop superstar Gwenno was welcomed with open arms by the OV Cardigan crowd. Playing songs in St Mary’s Church from her groundbreaking Mercury prize-nominated third album Tresor. Gwenno's critically acclaimed debut album Y Dydd Olaf won the Welsh Music Prize in 2015, making her no stranger to the shortlist. 

Written in St. Ives, Cornwall, just prior to the global lockdowns of 2020 and completed at home in Cardiff during the pandemic with her co-producer and musical collaborator, Rhys Edwards, Tresor (which translates to “treasure” in Cornish) revealed an introspective focus on home and self, echoing 2020’s isolation and retreat. It marked the second time that the musician took to the stage in the coveted venue, following her stunning 2019 appearance at the first ever Cardigan edition of Other Voices in 2019.

Also in 2022, Cardigan saw indie-pop sensation Stella Donnelly perform in the Church alongside venue veteran Gwenno, Llareggub Brass Band, Sage Todz, Catrin Finch and Aoife Ní Bhriain. Welsh-Australian artist Stella Donnelly earned a place on the Welsh Music Prize shortlist for her second album Flood, released via indie darlings Secretly Canadian in August 2022. 

With Other Voices Cardigan and the Welsh Music Prize appearing to have more in common than ever, 2023’s Welsh acts taking to the Church stages are favourites of the award ceremony. Cerys Hafana’s Edyf made the shortlist, while London-based alt rockers The Joy Formidable were nominated back in 2011, the first ever year of the prize, for The Big Roar

Of course, Welsh music has brought its impact over to Kerry since Other Voices began 22 years ago. In 2010, alternative musician Cate Le Bon performed backing vocals for St Vincent at Other Voices Dingle in the magical St. James’ Church. Le Bon is the second most recognised artist in Welsh Music Prize history with five nominations, one behind Gruff Rhys. 

This year’s anticipated edition of Other Voices Cardigan is set to see over 50 events take place in intimate and atmospheric spaces around the town. Catch Welsh stars Adwaith, The Joy Formidable and Cerys Hafana perform live and online from St. Mary’s Church alongside Mercury Prize-nominated Leeds band Yard Act, Wexford-based composer Colm Mac Con Iomaire, Sans Soucis, Susan O’Neill and Scottish indie favourite King Creosote (Kenny Anderson). 

We're sending all our luck to this year's shortlist and look forward to celebrating the winners when we get to Wales in a couple of weeks!

The upcoming event will also see live sets across The Music Trail from the best emerging acts on the scene plus a series of mind-opening conversations & ideas at the Clebran Sessions. 

Wristbands on sale at £35 grab your tickets now to check out some of the Welsh Music Prize winners and nominees perform at Other Voices Cardigan!

Other Voices Cardigan tickets are available here

_________________________________________________________________

Ffefrynnau Lleisiau Eraill Aberteifi yn cyrraedd rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2023 


Gyda Lleisiau Eraill Aberteifi ar fin cychwyn, rydyn ni’n troi’r sbotolau ar y rheiny sydd wedi’u henwebu am Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni, ac mae gan nifer ohonyn nhw hanes cyfoethog gyda Lleisiau Eraill! Yn 2011, fe ddechreuodd Huw Stephens y darlledwr radio a’r trysor cenedlaethol y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ochr yn ochr â’r hyrwyddwr cerddoriaeth John Rostron –pedair blynedd cyn i Huw ymuno’n swyddogol â thîm Lleisiau Eraill. Ers hynny, mae’r fenter wedi mynd o nerth i nerth, gan lwyddo i hyrwyddo’r llu o leisiau Cymreig dawnus yn y diwydiant adloniant.

Mae’r wobr flynyddol, a gefnogir bob blwyddyn gan Cymru Greadigol, yn dathlu’r gerddoriaeth orau a wnaed yng Nghymru neu gan Gymry ledled y byd.

Mae rhestr fer eleni yn cynnwys albymau début gan CVC, Dafydd Owain, Hyll, Minas, Overmono ac artistiaid y Llwybr Cerdd yn 2019 YNYS, ynghyd ag albymau gan yr actau sefydledig Cerys Hafana, H Hawkline, Ivan Moult, John Cale, Mace the Great, Rogue Jones, Sister Wives , Stella Donnelly a Sŵnami.

Caiff y prif enillydd ei gyhoeddi yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 10 Hydref fel rhan o ŵyl ddiwylliannol Llais Caerdydd. Yn fuan wedi hynny, o Hydref 26 i 28, bydd Lleisiau Eraill Aberteifi yn dychwelyd i Orllewin Cymru ar gyfer ei phedwaredd ŵyl o ganeuon i’r galon a’r pen.

Mae sêr anhygoel y dyfodol ac enillwyr clodwiw y Wobr Gerddoriaeth Gymreig wedi ymddangos ar lwyfan Eglwys y Santes Fair a Llwybr Cerdd Lleisiau Eraill Aberteifi dros y blynyddoedd, gydag Adwaith, sydd wedi ennill y wobr ddwywaith, yn barod i gamu i lwyfan Lleisiau Eraill Aberteifi fis Hydref eleni. Rhyddhaodd y rocwyr indi Cymraeg o Gaerfyrddin eu halbwm cyntaf Melyn nôl yn 2018. Enillodd y grŵp y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am y corff o waith clodwiw hwn, gan gipio’r wobr am yr eilwaith yn 2022 am y dilyniant syfrdanol Bato Mato – a gafodd ei ryddhau ar Recordiau Libertino.

Hefyd, bydd Mace the Great a Minas yn perfformio eleni ar Lwybr Cerdd Lleisiau Eraill Aberteifi 2023, o 26 i 28 Hydref. Mae’r ddau artist wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2023 am eu prosiectau cyfareddol SblotWorld ac All My Love Has Failed Me.

Fe greodd y cynhyrchydd o Gaerdydd James Minas yr albwm olaf hwn ochr yn ochr â'r drymiwr Greg Davies a'r basydd Bob Williams. Mae trac y teitl yn archwilio'r teimlad o ddiffyg grym a llygredd ym Mhrydain. Mae’r fideo dwys, gyda Ren Faulks wrth y llyw, yn pwysleisio cynddaredd James Minas ac yn plethu i mewn cipiadau o bobl greadigol eraill ar sîn gerddoriaeth Caerdydd. Yn y cyfamser, mae Mace The Great wedi meithrin enw da fel act grime a hip-hop llawn cyffro ym mhrifddinas Cymru a thu hwnt. Ar ôl ennill Gwobr Triskel yn y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2020, rhyddhaodd ei EP clodwiw 'My Side Of The Bridge' ym mis Mawrth 2021 trwy label MTGM.

Wrth droi at yr archifau, roedd début Lleisiau Eraill Aberteifi yn 2019 yn cynnwys enillydd cyntaf erioed y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Gruff Rhys, a gipiodd y wobr am Hotel Shampoo yn 2011. Roedd y trydydd LP unigol gan ganwr y Super Furry Animals yn cynnwys gwaith cydweithredol gyda Miles Kane. Hefyd yn perfformio yn Eglwys y Santes Fair yn yr un flwyddyn oedd Boy Azooga, y rocwyr-indi dan arweiniad Davey Newington a enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2018 am 1, 2, Kung Fu. Mae enwebeion ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig sef Al Lewis, VRï, Gwilyn Bowen Rhys (Plu), HMS Morris, Accü, Gwenifer Raymond, Bryde, Dead Method, Sywel Nyw, Cynefin ac eraill hefyd wedi perfformio ar y Llwybr Cerdd, tra bod y canwr-gyfansoddwr Carwyn Ellis (Rio 18) a

L E M F R E C K wedi chwarae setiau syfrdanol yn yr Eglwys yn 2022.

Fe chwaraeodd yr aruthrol The Gentle Good (Gareth Bonello) brif set arbennig iawn fel rhan o Leisiau Eraill Aberteifi 2021. Cafodd ei enwebu am Wobr Gerddoriaeth Gymreig am y tro cyntaf yn 2011 am Tethered for the Storm, ac yn ddiweddarach fe enillodd yr aml-offerynnwr o Gaerdydd y wobr yn 2017 gyda Ruins/Adfeilion.

Yn 2022, fe gafodd Gwenno y seren pop-electro o Gymru groeso brwd gan dorf Lleisiau Eraill Aberteifi wrth iddi berfformio caneuon yn Eglwys y Santes Fair o’i thrydydd albwm arloesol Tresor, a gafodd ei enwebu am wobr Mercury. Enillodd albwm début clodwiw Gwenno Y Dydd Olaf y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2015, ac felly mae hithau hefyd yn hen gyfarwydd â’r rhestr fer.

Fe gafodd Tresor ei ysgrifennu yn St. Ives, Cernyw, ychydig cyn y cyfnodau clo byd-eang yn 2020 a’i gwblhau gartref yng Nghaerdydd yn ystod y pandemig gyda’i chyd-gynhyrchydd a’i chydweithredwr cerddorol, Rhys Edwards. Datgelodd Tresor (sef ‘trysor’ yng Nghernyweg) ffocws mewnblyg ar y cartref a'r hunan, gan adleisio unigedd ac enciliad 2020. Fe gamodd y cerddor i’r llwyfan yn yr Eglwys am yr eildro gyda’r albwm hwn, yn dilyn ei hymddangosiad syfrdanol hi yn 2019 yng ngŵyl gyntaf erioed Lleisiau Eraill Aberteifi yn 2019.

Hefyd yn 2022, cafodd Aberteifi weld Stella Donnelly yn creu cynnwrf pop-indi wrth iddi berfformio yn yr Eglwys ochr yn ochr â Gwenno, Band Pres Llareggub, Sage Todz, Catrin Finch ac Aoife Ní Bhriain. Enillodd yr artist a’r Gymraes-Awstraliad Stella Donnelly le ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am ei hail albwm Flood, a ryddhawyd trwy’r label recordiau indi Secretly Canadian ym mis Awst 2022.

Wrth iddi ymddangos fod gan Leisiau Eraill Aberteifi a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig fwy o dir cyffredin nag erioed, mae’r actau Cymreig sy’n camu i lwyfan yr Eglwys yn 2023 yn ffefrynnau gan y seremoni wobrwyo. Cyrhaeddodd Edyf gan Cerys Hafana y rhestr fer, a chafodd y rocwyr-amgen o Lundain The Joy Formidable eu henwebu nôl yn 2011, blwyddyn gyntaf erioed y wobr, am The Big Roar.

Wrth gwrs, mae effaith cerddoriaeth Gymreig wedi cyrraedd Kerry ers i Other Voices ddechrau 22 mlynedd yn ôl. Yn 2010, perfformiodd y cerddor amgen Cate Le Bon fel llais cefndirol i St Vincent yn Other Voices Dingle yn Eglwys hudol St. James. Le Bon yw’r artist mwyaf cydnabyddedig ond un yn hanes y Wobr Gerddoriaeth Gymreig gyda phum enwebiad, un yn llai na Gruff Rhys.

Bydd gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi yn cynnal dros 50 o ddigwyddiadau mewn mannau cartrefol a llawn naws o amgylch y dref. Bydd y sêr Cymreig Adwaith, The Joy Formidable a Cerys Hafana yn perfformio'n fyw ac ar-lein o Eglwys y Santes Fair ochr yn ochr â'r band o Leeds, Yard Act a enwebwyd am Wobr Mercury, y cyfansoddwr o Wexford Colm Mac Con Iomaire, Sans Soucis, Susan O'Neill a’r ffefryn indi o'r Alban, King Creosote (Kenny Anderson).

Bydd y digwyddiad sydd ar fin digwydd hefyd yn gweld setiau byw ar hyd y Llwybr Cerdd gan y perfformwyr gorau sy'n dod i'r amlwg ar y sîn yn ogystal â chyfres o sgyrsiau a syniadau i ehangu’r meddwl yn y Sesiynau Clebran.

Mae bandiau arddwrn ar werth am £35, bachwch eich tocynnau nawr i weld rhai o enillwyr ac enwebeion y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn perfformio yn Lleisiau Eraill Aberteifi!

Share!